Cynllun Ailddechrau

Gair am y Cynllun Ailddechrau

EN

Rydym yn falch iawn o fod wedi cael ein dewis gan yr Adran Gwaith a Phensiynau i ddarparu’r Cynllun Ailddechrau yng Nghymru a Gorllewin Canolbarth Lloegr, er mwyn cefnogi unigolion cymwys* i ddod o hyd i waith yn eu hardal leol.

Rydym yn asesu anghenion a chymhelliant ein cyfranogwyr yn fanwl drwy ddefnyddio model cyflogadwyedd sydd wedi ei seilio ar dystiolaeth, yn ogystal â gweithio gyda’n rhwydwaith o ddarparwyr a phartneriaid dibynadwy er mwyn chwalu’r rhwystrau sydd rhyngddynt a’r byd gwaith.

Mae gwneud gwelliannau parhaol yn ganolog i’r hyn yr ydym yn ei wneud. Ac wrth ddatblygu ein Canolfan Ragoriaeth, rydym yn defnyddio data ac ymchwil i greu arferion sydd wedi eu seilio ar dystiolaeth i annog canlyniadau cadarnhaol.

 

Goresgyn heriau recriwtio a lleihau’r gost o hurio pob gweithiwr

Gwyddom fod gweithlu cystadleuol yn hanfodol ym marchnad galed heddiw, a dyna pam yr ydym yn gweithio mor agos gyda chyflogwyr er mwyn deall a lleihau eu heriau recriwtio.

Cysylltwch er mwyn cael mynediad at gronfa enfawr o ymgeiswyr sy’n barod am swydd ac sy’n gallu ychwanegu gwerth o’r diwrnod cyntaf.  Darganfyddwch sut mae ein gwasanaeth a ariennir yn llawn yn cyflwyno’r bobl gywir i chi a sicrhau bod gan eich busnes chi'r setiau sgiliau cywir i ffynnu.

Darganfyddwch fwy Llwyddiannau


Gadewch i ni weithio gyda’n gilydd i herio diweithdra

Gyda throsolwg o flaenoriaethau lleol, rydym yn gweithio gyda gwasanaethau amlapio yng Nghymru a Gorllewin Canolbarth Lloegr i leihau dyblygiad darpariaeth a chynnig ffyrdd atgyfeirio lleol ar gyfer y ceiswyr gwaith yr ydym yn angerddol ynglŷn â’u cefnogi.  Mae ein perthnasoedd parhaus, sydd wedi cael eu seilio ar wybodaeth a rennir, yn helpu i ddarparu gwybodaeth ar gyfer polisïau, angenhion cyllid a darpariaeth, yn awr ac yn y dyfodol.

Mae ein rhanddeiliaid yn rhan annatod o’r ateb i helpu Cyfranogwyr i gael gwaith.  Os ydych chi’n cynrychioli sefydliad cyhoeddus neu sefydliad preifat yng Nghymru neu yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, gweithiwch gyda ni er mwyn sbarduno mynediad at eich gwasanaeth a chryfhau’r gymuned a’r economi leol.

Darganfyddwch fwy Llwyddiannau


Sut ydym ni’n gweithio gyda’n cyfranogwyr

Rydym yn sylweddoli fod taith pob cyfranogwr yn ôl i fyd gwaith yn mynd i fod yn wahanol, felly mae’n ymdriniaeth ni wedi ei theilwra i ateb gofynion pob unigolyn. Mae hyn yn caniatáu’r rheini sydd â phrofiad o weithio i ffynnu’n gynt, tra bo llwybrau hyfyw yn cael eu creu ar gyfer y rhai sydd ag anghenion cefnogi ychwanegol.

Darganfyddwch fwy Llwyddiannau

*Unigolion sy’n hawlio Credyd Cynhwysol ac yn rhan o’r System Chwilio am Waith yn Ddwys am o leiaf 9 mis yn olynol, ac wedi cael Lwfans Ceisio Gwaith o’r math newydd yn cyfrif tuag at hyn.