Mae taith pob ceisiwr gwaith i fyd gwaith yn wahanol, a dyna pam ein bod yn parhau i wella’r darpariaethau a ddarparwn ar gyfer amrywiaeth o bobl. Ac mae hyn yn arbennig o wir am bobl ag anableddau a chyflyrau iechyd corfforol neu feddyliol sylweddol.
Mae gan y pobydd talentog, Sandra*, freuddwyd i agor caffi yn Ne Cymru. Ond heb gymwysterau ffurfiol, a bod yn ddi-waith gyda theulu i’w gefnogi, roedd hi’n credu nad oedd yn ddim mwy na breuddwyd ffôl. Mae Gillian, Hyfforddwr Gwaith Sandra o Remploy, yn benderfynol o’i helpu i wireddu ei breuddwyd. I gyflawni hyn, mae Sandra angen cymwysterau ffurfiol i gefnogi ei CV.
Ar ôl bod allan o waith am beth amser, doedd Hayley* ddim yn hyderus y byddai’n dod o hyd i’w swydd ddelfrydol fel tyllwr corff. Ond ar ôl troi at y Cynllun Ailddechrau, cafodd y cymorth roedd ei angen arni i sicrhau rôl fel tyllwr corff dan hyfforddiant yn y diwydiant o fewn dau fis.
Roedd colli ei swydd mewn gwesty yn ystod y pandemig wedi rhoi straen ar gyllid Michelle ac wedi ei gorfodi hi a’i merch i symud i fyw mewn tŷ a rennir. A hithau wedi cael llond bol o'r bobl oedd yn rhannu tŷ â nhw, a oedd yn gaeth i gyffuriau ac yn eu cam-drin yn eiriol, roedd Michelle yn benderfynol o ddod o hyd i waith a sicrhau cartref sefydlog iddi hi a’i merch. Er hynny, roedd hi’n poeni y byddai'r ffaith nad oedd ganddi gymwysterau yn cyfyngu ar ei chyfleoedd a heb gynilion, ni fyddai hi’n gallu fforddio teithio i’r gwaith, hyd yn oed pe bai hi’n cael gwaith.