Cynllun Ailddechrau

Gair am y Cynllun Ailddechrau

EN

Bydd y Cynllun Ailddechrau yn rhoi i bobl sy’n hawlio Credyd Cynhwysol ac a fu’n ddi-waith am o leiaf 9 mis* lefel uwch o gefnogaeth i ddod o hyd i swyddi yn eu hardal leol. 

Bydd y Cynllun Ailddechrau yn chwalu’r rhwystrau a allai fod yn eu hatal rhag dod o hyd i waith. Bydd darparwyr yn gweithio â chyflogwyr, Llywodraeth Leol a phartneriaid eraill i gyflwyno cefnogaeth wedi’i theilwra ar gyfer unigolion.  

Bydd y Cynllun Ailddechrau yn rhoi hyd at 12 mis o gefnogaeth wedi’i theilwra i bob cyfranogwr. Gellir ystyried rhoi mynediad cynnar i rai unigolion os bydd y sgwrs ag anogwr gwaith yn awgrymu mai hon yw’r ffordd fwyaf priodol i’r unigolyn. 

Bydd y Cynllun Ailddechrau, sy’n cael ei gomisiynu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn cael ei redeg ar draws Cymru a Lloegr mewn 12 gwahanol Ardal Pecyn Contract (CPA). 

*Unigolion sy’n hawlio Credyd Cynhwysol ac yn rhan o’r System Chwilio am Waith yn Ddwys am o leiaf 9 mis yn olynol, ac wedi cael Lwfans Ceisio Gwaith o’r math newydd yn cyfrif tuag at hyn.

10 mlynedd + Buom yn cyflwyno rhaglenni cyflogadwyedd ers dros 10 mlynedd

Gair am gyflwyno Cynllun Ailddechrau Serco

Ochr yn ochr â’n partneriaid rydyn ni’n falch dros ben fod yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) wedi ein dewis ni i gyflwyno’r rhaglen cyflogadwyedd Cynllun Ailddechrau mewn 2 Ardal Pecyn Contract (CPA): 

CPA 1a – Gorllewin Canoldir Lloegr (yr Ardal Ddu, Coventry, Birmingham Fwyaf a Solihull, y Gororau a Swydd Gaerwrangon) 

CPA 6 - Cymru


Ein Dull

Rydym wedi ymrwymo i annog adferiad economaidd ar ôl Covid ac rydyn ni’n falch o gefnogi Cynllun y Llywodraeth ar gyfer Swyddi. Fel rhan o’r Cynllun Ailddechrau bydd ein rhaglen yn helpu cyfranogwyr ar eu siwrnai i ddod o hyd i gyflogaeth gynaliadwy, gan eu galluogi i symud at ddyfodol mwy sicr.  

Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth, ac mae ein Cynllun Ailddechrau yn cyfuno sgiliau’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r sector gwirfoddol. Fel y darparwr arweiniol ac integreiddiwr gwasanaethau rydym yn awyddus i helpu BBaCh (busnesau bach a chanolig eu maint) a phobl arloesol sy’n newydd i’r farchnad gyflogadwyedd, gan gynnig iddynt y cyfle i ddatblygu eu capasiti.  

Mae ein tîm Partneriaeth eisoes wedi ymgysylltu ag amrywiaeth eang o randdeiliaid a darparwyr gwasanaethau ym mhob CPA, ac maent yn gweithio gyda’i gilydd i ddylunio gwasanaeth sy’n bodloni’r galw lleol am sgiliau a llafur.  

Mae gwella’n barhaus wrth wraidd popeth a wnawn a drwy ddatblygu Canolfan Ragoriaeth byddwn yn defnyddio data ac ymchwil i’r eithaf i greu ymarfer seiliedig ar dystiolaeth sy’n ysgogi canlyniadau positif. Bydd y sylfaen wybodaeth hon yn cyfrannu at hybu’r sector ac ansawdd rhaglenni cyflogadwyedd i bobl a fu’n ddi-waith yn y tymor hir. 

 


Sut fydd y cyfranogwyr yn elwa

Rydym yn sylweddoli bod siwrnai pob Cyfranogwr yn ôl i waith yn wahanol a chaiff y Cynllun Ailddechrau ei deilwra i fodloni anghenion pob unigolyn. Rydym wedi creu gwasanaeth sy’n hyblyg, gan alluogi pobl sydd â dipyn o gic ynddynt ac sydd â hanes o waith i ffynnu’n gyflymach; a bydd hefyd yn creu llwybr effeithiol i bobl sydd angen mwy o gefnogaeth.    

Bydd y cyfranogwyr yn gweithio gyda’u Hanogwr Gwaith o’r Cynllun Ailddechrau gydol eu siwrnai yn ôl i waith er mwyn: 

  • Meithrin sgiliau gwerthfawr ar gyfer gwaith, gan gynnwys hyfforddiant ar gyfer swyddi penodol.  

  • Cael mynediad i beiriannau chwilio ar-lein lle ceir miloedd o swyddi gwag yn y DU.  

  • Ailhyfforddi neu ddiweddaru sgiliau i gyd-fynd â’r galw am lafur a’r sectorau twf. 

  • Rhoi sylw i rwystrau personol a chymdeithasol rhag cael gwaith.   

  • Meithrin sgiliau cyflogaeth gwerthfawr, megis ymarfer ar gyfer cyfweliadau.  

  • Cael eu paru â chyfleoedd gwaith addas.


Cymhwysedd

Mae cymhwysedd yn ôl disgresiwn Anogwr Gwaith y Ganolfan Byd Gwaith, a rhaid i’r hawlwyr fodloni’r canlynol:

(a) wedi bod ar Gredyd Cynhwysol neu Lwfans Ceisio Gwaith am 9 mis neu fwy yn olynol,

(b) bod yn yr IWSR ar adeg atgyfeirio,

(c) ddim mewn cyflogaeth ar hyn o bryd (mae rhai hawlwyr hunangyflogedig yn gymwys i gael eu hatgyfeirio),

(d) bod â’r hawl i weithio yn y DU,

(e) preswylio yng Nghymru neu Loegr,

(f) bod yn oedran gweithio (16* i oedran pensiwn y wladwriaeth),

(g) ddim yn cymryd rhan mewn unrhyw Gontract Darpariaeth Cyflogaeth arall gan yr Adran Gwaith a Phensiynau