Cynllun Ailddechrau

Goresgyn heriau recriwtio

EN

Lleihau costau recriwtio a chostau hyfforddi parhaus

Rydym yn gweithio gyda busnesau yng Nghymru a Gorllewin Canolbarth Lloegr i oresgyn heriau recriwtio a lleihau’r gost o hurio pob gweithiwr.  Os ydych chi’n dymuno elwa o’n gwasanaeth a ariennir yn llawn i ddod â chronfa o ymgeiswyr addas, gyda’r sgiliau yr ydych chi eu hangen, cysylltwch â ni heddiw.

Yn ogystal, byddwn yn trafod cael mynediad at gefnogaeth ôl-gyflogaeth gyda chi, gan gynnwys symud ymlaen gyda’ch gyrfa heb unrhyw gost, fel bod staff sydd yn cael eu hurio o’r newydd a staff presennol yn cael parhau yn dra brwdfrydig yn eu swyddi ac yn gallu cyflawni eu hamcanion.

Dod o hyd i ymgeiswyr addas sy’n chwilio am swyddi tymor hir

Gwyddom y gall fod yn gostus a gall gymryd llawer o amser i ddod o hyd i’r bobl gywir ar gyfer eich busnes.  Fodd bynnag, nid yw hyn o bwys, p’un a ydyn nhw ar gyfer y llawr gwaith neu’n weithwyr proffesiynol medrus, byddwn ni’n gweithio gyda chi i gydweddu ymgeiswyr â’ch angenhion chi.

Mae ein gwasanaeth wedi’i deilwra ar gyfer eich busnes, ac felly p’un a ydych chi’n gyflogwr mawr neu fach, gallwn ni eich helpu.  Mae hyn oherwydd mai sicrhau bod pobl yn barod ar gyfer eu swyddi yw ein nod, ac mae hyn golygu y gallwch chi ganolbwyntio ar dwf ac elw.

Ailfeddyliwch am recriwtio a chysylltwch â ni heddiw

Bydd ein tîm recriwtio yn gweithio gyda chi er mwyn darparu gwasanaeth recriwtio a ariennir yn llawn, sy’n rhoi mynediad i chi at gronfa o ymgeiswyr addas sydd wedi cael eu datblygu i gwrdd ag anghenion eich busnes.

Mae’n cynnwys sgrinio ymgeiswyr addas ymlaen llaw, trefnu dyddiau recriwtio, hyfforddiant penodol i’r cwmni er mwyn sicrhau bod ymgeiswyr yn barod i weithio i chi, ynghyd â chefnogaeth ôl-gyflogaeth sy’n cynnwys hyfforddiant er mwyn cael symud ymlaen yn eich gyrfa.

Cysylltwch â ni Llwyddiannau

Manteisio ar ein gwasanaeth a ariennir

Cam 1: Rydym yn eich cyfarfod i ddeall eich amcanion busnes a’ch anghenion hurio yn well

  • Byddwn yn dod i adnabod eich busnes fel y gallwn ni eich cydweddu ag ymgeiswyr yr ydym wedi’u datblygu er mwyn darparu’r rhai hynny sy’n gweddu orau, ac fel eu bod yn ychwanegu gwerth o’r diwrnod cyntaf
  • Mae’r Cynllun Ailgychwyn yn cael ei ariannu, sy’n golygu nad oes unrhyw gostau nac unrhyw rwymedigaeth

Cam 2:  Rydym yn trefnu sesiynau Cwrdd â’r Cyflogwr a’r Sesiynau Mewnwelediad ar gyfer gweithwyr posibl

  • Rydym yn gwneud yr holl waith caled o osod disgwyliadau a pharatoi ymgeiswyr ar gyfer gwaith yn eich busnes a’ch sector chi.
  • Mae hyn yn golygu gweithlu hapusach a gostyngiad mewn trosiant staff

Cam 3:  Rydym yn cael hyd i ymgeiswyr, eu sifftio a’u hyfforddi i ddod â chronfa o sgiliau addas i ddyddiau dethol

  • Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid i sicrhau bod gan yr ymgeiswyr y sgiliau perthnasol sydd eu hangen cyn eu hasesu a’u harwain drwy’r broses recriwtio
  • Cewch fudd wrth ddewis o gronfa o ymgeiswyr addas yn ystod y cyfnod dethol

Cam 4: Rydym yn darparu’r adnoddau profiadol ychwanegol i gefnogi’r broses gyfweld

  • Gallwn ni gael gwared â gwaith gweinyddol ailadroddus sydd ynghlwm â dechreuwyr newydd drwy hwyluso cyfweliadau grŵp ac asesiadau cyngyflogaeth
  • Derbyn adnoddau ac arbenigedd ychwanegol profiadol i gefnogi eich anghenion

Cam 5: Nid yw ein cefnogaeth yn dod i ben pan mae’r ymgeisydd yn dechrau!

  • Rydym yn cynnig cefnogaeth bellach i sicrhau bod gan eich busnes chi’r setiau sgiliau gweithwyr y mae eu hangen i ffynnu a chadw eich gweithlu yn hapus ac yn ymgysylltiedig
  • Rydym yn gallu gweithio gyda phartneriaid a gwasanaethau wedi’u harwain gan Serco er mwyn hyfforddi staff presennol hefyd