Cynllun Ailddechrau

Cynllun Ailddechrau yng Nghymru

EN

Ochr yn ochr â’n partneriaid rydyn ni’n falch dros ben fod yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) wedi ein dewis ni i gyflwyno rhaglen gyflogadwyedd y Cynllun Ailddechrau yng Nghymru.

Bydd y Cynllun Ailddechrau yn rhoi i bobl sy’n hawlio Credyd Cynhwysol yng Nghymru ac a fu’n ddi-waith am o leiaf 9 mis* lefel uwch o gefnogaeth i ddod o hyd i swyddi yn eu hardal leol.

Bydd y Cynllun Ailddechrau yn chwalu’r rhwystrau a allai fod yn eu hatal rhag dod o hyd i waith. Mewn partneriaeth â’n rhwydwaith o Ddarparwyr cyflogaeth byddwn yn gweithio â chyflogwyr (gan gynnwys BBaCh – busnesau bach a chanolig eu maint), Llywodraeth Leol a phartneriaid eraill i gyflwyno cefnogaeth wedi’i theilwra i unigolion.

*Unigolion sy’n hawlio Credyd Cynhwysol ac yn rhan o’r System Chwilio am Waith yn Ddwys am o leiaf 9 mis yn olynol, ac wedi cael Lwfans Ceisio Gwaith o’r math newydd yn cyfrif tuag at hyn.

8 o ddarparwyr lleol BBaCh ar gyfer Cymru sy’n cynrychioli 62% o’r Gadwyn Gyflenwi gyfan

Ein Darparwyr

Môn CF

Mae Môn CF (Cymunedau Ymlaen) yn cynnig cymorth cyflogaeth am ddim i trigolion Ynys Môn a Gwynedd: ysgrifennu CV, cymorth hefo ceisiadau am swydd, lleoliadau gwaith hefo tâl, cymorth hunangyflogaeth a chefnogaeth gyda sefydlu busnes. Mae gan Môn CF dîm hyfforddi mewnol hefyd sy'n cynnig llawer o gyrsiau hyfforddi achrededig a tîm cymorth busnes a gallant gynorthwyo gyda recriwtio, lleoliadau wedi'u hariannu, arweiniad AD, hyfforddiant staff a llawer mwy. Mae ganddyn nhw swyddfeydd yng Nghaergybi, Amlwch, Porthaethwy, Bangor a Chaernarfon. 

Tydfil Training

Dechreuodd Hyfforddiant Tudful ym Merthyr Tudful ym 1987 ac fe’i hymgorfforwyd fel elusen gofrestredig ym 1990. Rydym yn dal i weithredu yn y dref heddiw, a hefyd â chanolfan ym Mhontypridd. Yn 2018 daethom yn is-gwmni dan berchnogaeth lwyr Coleg Merthyr Tudful. Yn ogystal â hyn, yn 2019 daethom yn is-gontractiwr i QSA (Coleg Caerdydd a’r Fro), ar gyfer Prentisiaethau ac ACT ar gyfer Hyfforddeiaethau. Rydym wedi cyflwyno Rhaglenni Oedolion ers blynyddoedd lawer gan ganolbwyntio ar gyflogadwyedd a chymwysterau perthnasol a arweinir gan ddiwydiant. Rydym yn cynnig cyrsiau byr i unigolion fel Cymorth Cyntaf a Diogelwch Bwyd ac yn gweithio gyda chyflogwyr i gynorthwyo gyda recriwtio sy'n canolbwyntio ar sgiliau cyflogadwyedd.

Mae staff yn Hyfforddiant Tudful yn gymwys iawn ac yn gweithio gydag ystod eang o gyrff dyfarnu fel City & Guilds, Highfield, BCS ac EAL ac maent yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Mae ein cyswllt, fel is-gwmni i'r Coleg, yn galluogi pob Defnyddiwr Gwasanaeth i gael mynediad at ystod eang o gyfleoedd dysgu. 

Rydym yn ymgysylltu â sylfaen eang o gyflogwyr ac mae ein Swyddog Cyswllt Cyflogwyr yn sicrhau ein bod yn gallu cyflawni yn ôl galw cyflogwyr.  

Mae ein Canolfan Fenter Merthyr Tudful (MTEC) yn fenter ar y cyd rhwng Hyfforddiant Tudful a'r Awdurdod Lleol, sy'n arbenigo mewn sgiliau menter, hunangyflogaeth ac entrepreneuraidd.

Maximus

Yn Maximus, rydym yn cyfuno arloesedd a phrofiad i ddarparu ystod eang o raglenni sy'n helpu unigolion i ddod o hyd i waith ac aros ynddo. Rydym wedi bod yn cyflwyno rhaglenni cyflogaeth a sgiliau sy'n perfformio'n dda am fwy na 25 mlynedd ledled Cymru, Lloegr a'r Alban; o raglenni cenedlaethol ar raddfa fawr i fentrau arbenigol iawn yng nghalon cymunedau lleol.

Trwy ein rhaglenni rydym yn partneru â mwy na 200 o sefydliadau, gan gynnwys elusennau, darparwyr iechyd a gwasanaethau statudol, i sicrhau ein bod yn darparu cefnogaeth effeithiol wedi'i theilwra, waeth pa rwystrau y mae unigolyn yn eu hwynebu. Mae ein timau o arbenigwyr cyflogadwyedd yn helpu i ailsgilio, ailhyfforddi a rhoi’r hyder sydd ei angen ar ein cwsmeriaid i ddod o hyd i waith mewn sectorau newydd a gwahanol.

Mae ein treftadaeth gref a'n harbenigedd mewn gwasanaethau clinigol ac anabledd yn gosod Maximus fel arbenigwyr diwydiant ar gyfer cefnogi pobl ag anableddau a chyflyrau iechyd i ddod o hyd i waith, aros ynddo a symud ymlaen. Rydym yn hynod falch i fod wedi cefnogi mwy na 250,000 o bobl i gyflogaeth gynaliadwy.

Newport City Council

Awdurdod unedol sy’n gyfrifol am weinyddu pob maes llywodraeth leol yw Cyngor Dinas Casnewydd. Dyma’r wythfed cyngor mwyaf yng Nghymru ac mae’n darparu’r holl wasanaethau blaenllaw megis addysg, hamdden, gwasanaethau cymdeithasol, cynllunio a phriffyrdd.

Y cyngor yw’r sefydliad arweiniol dros strategaeth sy’n ymwneud â chyflogadwyedd a sgiliau ac ag adfywio’r ddinas ar raddfa ehangach.

Mae’r cyngor wedi cynnal gweithgareddau a gontractiwyd dan O Fudd-dâl i Waith i nifer o grwpiau demograffig ac ardaloedd ers dros 10 mlynedd ac i gyd-fynd â’r gweithgareddau hyn maent yn cynnal rhaglenni atal ac ymgysylltu gan gynnwys Cymunedau Cadarn, Teuluoedd yn Gyntaf, Gwasanaeth Ieuenctid a Dechrau’n Deg.

Mae eu ffocws newydd yn ddiweddar wedi sicrhau bod yr awdurdod yn cyflwyno’r cyfryw wasanaethau mewn ffordd sy’n rhoi’r budd gorau i gymunedau. Mae hyn yn cynnwys creu canolfannau cymdogaeth, sy’n dwyn ynghyd amrywiol wasanaethau mewn amgylchedd modern, croesawgar, gan weithio dros ddinasyddion a’u helpu i wella’u bywydau.

Canolfannau cymdogaeth yn awr yw’r weledigaeth barhaus ar gyfer adfywio cymunedol, maent yn ategu’r prosiectau adfywio cymunedol heddiw ac i’r dyfodol ac yn cyd-fynd â’r egwyddorion datblygu cynaliadwy a geir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae’r canolfannau hyn yn cynnig cyngor, arweiniad a chefnogaeth wedi’i theilwra er mwyn i bobl ennill cymwysterau, lleoliadau gwaith, cyfleoedd gwirfoddoli a gwella eu technegau a’u sgiliau chwilio am swyddi.

Gan fod y tîm Gwaith a Sgiliau wedi’i integreiddio’n llwyr â’i bartneriaid, mae’n un pwynt mynediad i gwsmeriaid sydd wedyn yn gallu cael gafael ar yr holl lwybrau cefnogaeth. Gellir creu pecynnau at y pwrpas ac mae’r gefnogaeth arbenigol ar gael i alluogi defnyddwyr i wella’u hiechyd a’u lles, chwalu’r rhwystrau a sicrhau cyflogaeth gynaliadwy.

North Wales Training

Sefydlwyd Hyfforddiant Gogledd Cymru yn 1983 fel y darparwr prentisiaethau a hyfforddiant cyflogadwyedd arweiniol yng Ngogledd Cymru ac mae’n is-gwmni i Grŵp Llandrillo Menai, sef y darparwr addysg mwyaf yng Nghymru. Mae’r cwmni yn cynnig ei wasanaethau ar draws y ffin drwy Copa Apprenticeships er gwanwyn 2021 ar ôl penderfynu bod 38 mlynedd yn ddigon o amser i ond gwasanaethu ei famwlad.  

Dros y blynyddoedd mae’r cwmni wedi ennill enw da iawn iddo’i hun am fodloni anghenion hirdymor pobl ddi-waith, dysgwyr, cyflogwyr a’u cymunedau, gan fynd y filltir arall i gyflawni ei genhadaeth bod ei ‘holl ddysgwyr yn llwyddo’.  

Fel cynifer o’r dysgwyr sydd wedi mynd ymlaen i gael gwaith a chael gyrfaoedd llwyddiannus, diolch i’w gynllun i weithwyr, mae’r cwmni wedi tyfu drwy feithrin a chynnal yn barhaus berthnasoedd cryf, adeiladol â’i bartneriaid a’i randdeiliaid. 

Mae’n cwmni yn fwy ffit, yn gryfach ac yn fwy dynamig nag erioed o’r blaen yn ei hanes, ac mae’n defnyddio ei brofiad helaeth yn cyflwyno rhaglenni cyflogadwyedd a phrentisiaethau i helpu i gyflwyno holl gynlluniau a rhaglenni’r llywodraeth a fwriedir i ailadeiladu’r economi ar ôl y pandemig a helpu pobl yn ôl i waith.  

Mae Hyfforddiant Gogledd Cymru yn sefydliad Buddsoddwr mewn Pobl ymroddedig, yn aelod corfforaethol o’r Sefydliad Gweithwyr Cyflogadwyedd Proffesiynol ac yn Gyflogwr Cyflog Byw.

MTIB

Elusen a menter gymdeithasol a leolir ym Merthyr Tydfil ac sy’n gweithredu ar draws de Cymru a’r Cymoedd yw MTIB. Menter gymdeithasol, nid er elw yw MTIB a sefydlwyd yn 1923 i gefnogi’r cynnydd mewn dallineb diwydiannol yn yr ardal. Mae MTIB wedi esblygu a datblygu yn sefydliad cymorth cyflogaeth, a’r prif nod yw cefnogi ein cyfranogwyr i symud yn agosach at waith ac i gyflogaeth.

Ein swyddfeydd ym Mhentrebach, Merthyr Tudful, yw lleoliad ein cyfleusterau cyflogaeth a hyfforddiant lle’r ydym yn cyflwyno ein gwasanaethau cyflogadwyedd yn ein hadeiladau modern sy’n gydnaws â’r DDA. Mae MTIB yn ganolfan gyflawni achrededig i Agored Cymru ac rydym yn cyflwyno amrywiaeth o hyfforddiant a chefnogaeth i helpu i ddatblygu a gwella sgiliau cyflogadwyedd.

Bu MTIB yn cyflwyno cymorth cyflogadwyedd yng Nghymru er dechrau’r 1980au ac mae ganddo brofiad helaeth o helpu cyfranogwyr sydd â rhwystrau neu anghenion ychwanegol megis pobl a fu’n ddi-waith yn yr hirdymor, pobl sydd heb lawer o sgiliau, pobl sy’n newid gyrfa neu bobl sydd â chyflyrau iechyd ac anabledd. Rydyn ni’n gweithio’n agos â chyflogwyr lleol i ddeall eu hanghenion ac i helpu ein cyfranogwyr i gael cyfleoedd cyflogaeth cynaliadwy, hirdymor. Mae MTIB hefyd yn gweithio’n agos â darparwyr lleol eraill ym maes hyfforddiant, tai, cefnogaeth iechyd meddwl a llawer mwy i gynnig ystod eang o ymyraethau cefnogol a phersonol i helpu ein cyfranogwyr.

Futureworks (Cyngor Sir Penfro)

Mae Futureworks yn arbenigo mewn gwasanaethau cyflogaeth a sgiliau, gan fynd i’r afael â diweithdra a hyrwyddo symudedd cymdeithasol. Ers dros 30 mlynedd bellach, mae Futureworks wedi llwyddo i ddarparu rhaglenni cyflogaeth a sgiliau i gefnogi pobl heb waith a phobl economaidd anweithgar i ennill sgiliau a symud i gyflogaeth. Mae gennym ddealltwriaeth dda o’r amgylchedd gweithio lleol a drwy feithrin perthnasoedd cryf â chyflogwyr, partneriaid a chymunedau lleol, rydym wedi gallu sicrhau canlyniadau rhagorol hyd yma a byddwn yn parhau i wneud hynny yn y dyfodol. Mae ein cwsmeriaid yn derbyn taith cwsmer unigryw bersonol sy'n cynnig gwell rhagolygon swyddi iddynt.

Ein gwerthoedd craidd:

  • Rydym yn berchen ar agwedd gadarnhaol
  • Rydym yn ymfalchïo mewn rhagori ar ddisgwyliadau
  • Rydym yn helpu i godi a gwireddu dyheadau
  • Rydym yn mwynhau darparu gwasanaeth cyfeillgar a phroffesiynol
  • Rydym yn dangos parch mawr tuag at bob cwsmer
  • Rydym yn darparu amgylchedd diogel i’n cwsmeriaid

Wedi ein lleoli ar draws Sir Benfro gyfan a thu hwnt, rydym yn dod â’n profiad a’n harbenigedd i gymunedau gwledig gwahanol. Rydym wedi helpu dros 3000 o bobl yn Sir Benfro i newid eu bywydau er gwell drwy ddechrau cyflogaeth barhaol.

ITEC Training Solutions

Sefydlwyd Itec dros 30 mlynedd yn ôl i ddiwallu’r bylchau sgiliau a oedd yn dod i’r amlwg, ac erbyn heddiw mae wedi tyfu i fod yn un o ddarparwyr mwyaf Cymru o ran sgiliau a chyflogaeth.

Mae ein cyfres o raglenni sydd wedi’u hariannu (gan gynnwys Prentisiaethau, Hyfforddeiaethau, y Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd a Twf Swyddi Cymru) yn sail i lawer o’r strategaethau datblygu economaidd craidd sydd ar waith ledled y wlad.

Gyda gwerth blynyddol o tua £14m, mae ein tîm o dros 170 o weithwyr yn gallu cefnogi dros 4,000 o ddysgwyr a gweithio mewn partneriaeth â thua 1,000 o gyflogwyr bob blwyddyn.

Ethos syml sydd gennym. Rydyn ni’n helpu unigolion i ddechrau a datblygu eu gyrfaoedd drwy gyfateb eu sgiliau â sgiliau cyflogwyr lleol. Cysoni’r cyflenwad a’r galw yn y ffordd hon yw’r unig ffordd o sicrhau bod ein rhaglenni’n ystyrlon, yn effeithiol, yn cael eu gwerthfawrogi ac yn gynaliadwy i unigolion ac i gyflogwyr.

Mae’r dull hwn yn arwain at gael cyflogwyr ffyniannus sydd gan weithwyr gwerthfawr, ac mae’n cefnogi ein llwyddiant a’n twf parhaus.

PeoplePlus

Yn PeoplePlus ein cenhadaeth yw gwneud gwahaniaeth uniongyrchol i fywydau 1 miliwn o bobl erbyn 2022. Rydym yn gwneud hyn drwy helpu pobl i ddysgu sgiliau newydd, dod o hyd i swyddi neu ddechrau eu busnes eu hunain; cefnogi carcharorion a chyn-droseddwyr; a helpu pobl i fyw’n annibynnol yn y gymuned. Rydym yn gwneud hyn mewn partneriaeth â sefydliadau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol o’r un anian i sicrhau bod ein hymdrechion yn cael eu cydlynu ac yn cael yr effaith iawn yn ein cymunedau.

PeoplePlus yw’r darparwr hyfforddiant sgiliau oedolion mwyaf yn y DU ar gyfer y di-waith, gan weithio gyda degau o filoedd o bobl bob blwyddyn. Drwy ein gwasanaethau addysg i oedolion, gallwch ddysgu sgiliau newydd mewn pynciau fel gwasanaeth i gwsmeriaid, diogelwch, arlwyo, gofal cymdeithasol neu TG, a chael cymwysterau a thrwyddedau sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol (fel cardiau CSCS, wagen fforch godi neu Drwyddedau SIA) am ddim. Gyda’n gweithdai chwilio am swydd, ysgrifennu CV a pharatoi ar gyfer cyfweliadau, byddwch yn cael eich cefnogi bob cam o’r ffordd. Mae gennym gysylltiadau agos â dros 1700 o gyflogwyr lleol a chenedlaethol a gallwn sicrhau cyfweliadau swyddi yn aml i’n dysgwyr.

 

ELITE Supported Employment

Croeso i ELITE Supported Employment. Rydych chi’n ymuno â ni ar y rhaglen AilGychwyn. Rydyn ni’n ddarparwr cyflogaeth blaenllaw yng Nghymru, gyda dros ddau ddegawd o brofiad o gefnogi pobl i gael gwaith. Rydyn ni’n elusen gofrestredig a gafodd ei sefydlu yn 1994, ac mae ein Prif Swyddfa yn Llantrisant.

Yn ELITE, rydyn ni’n arbenigo mewn darparu gwasanaeth sydd wedi’i deilwra i ddiwallu eich anghenion personol, er mwyn eich galluogi i gyflawni eich nodau cyflogaeth a’ch cefnogi ar eich taith i gael gwaith. Bydd ein tîm o Gynghorwyr Cyflogaeth arbenigol yn eich helpu drwy gynnig amrywiaeth eang o gymorth cyflogadwyedd a allai gynnwys ysgrifennu CV, technegau cyfweliad, magu hyder, ceisiadau am swyddi, hyfforddiant achrededig, cyngor ar fudd-daliadau, ailhyfforddi i gefnogi newidiadau mewn gyrfa, dod o hyd i waith, a chymorth yn y gwaith.

Mae gennym dîm ymroddedig o Swyddogion Ymgysylltu â Chyflogwyr sy’n gweithio gyda chyflogwyr lleol i sicrhau cyfleoedd gwaith cyflogedig i’r rheini sy’n cymryd rhan yn ein rhaglenni.

Mae ELITE hefyd yn darparu amrywiaeth eang o raglenni cyflogadwyedd sy'n arbenigo mewn cefnogi pobl ag anableddau a'r rheini sydd dan anfantais. 

Ein cenhadaeth yw galluogi unigolion i gael gafael ar waith cyflogedig, a chadw’r gwaith hwnnw drwy gael cymorth priodol.

Coleg Sir Gâr

Mae Coleg Sir Gâr/Coleg Ceredigion yn rhan o Brifysgol Cymru: Grŵp y Drindod Dewi Sant – Prifysgol Sector Deuol yn ne orllewin Cymru. Gyda’i gilydd, nhw yw darparwr mwyaf y rhanbarth ar gyfer hyfforddi’r gweithlu.

Mae’r grŵp yn cynnig amrywiaeth eang o raglenni hyfforddi sy’n cefnogi unigolion, masnachwyr unigol, cwmnïau preifat bach, sefydliadau amlwladol mawr a’r sector cyhoeddus yng Nghymru ac yn rhyngwladol.

Mae Coleg Sir Gâr/Coleg Ceredigion yn frwd dros ddysgu a chefnogi pobl yn y gymuned sy’n ymdrechu i wella eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u profiad mewn ymdrech i wneud y gorau o’u cyfleoedd cyflogaeth, ac mae’r unigolion sy’n ymgysylltu â ni wrth galon popeth a wnawn.

Mae’r egwyddorion sylfaenol hyn yn cael eu gyrru gan staff ymroddedig, gwybodus a phrofiadol sy’n gwneud eu gorau glas i sicrhau bod pob unigolyn yn cyflawni ei botensial yn llawn.

Mae gan y coleg, a’r Adran Datblygu Busnes ac Arloesi yn benodol, gysylltiadau eithriadol gyda chyflogwyr sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn y gymuned y mae’n ei gwasanaethu.

Felly, mae yn y lle gorau i fod yn sianel effeithiol i’r rhai sy’n cymryd rhan yn y Cynllun AilGychwyn, gan fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd ar gyfer cyflogaeth gynaliadwy gydag amrywiaeth eang o gwmnïau ar draws y rhanbarth.