Cynllun Ailddechrau

Pontio’r bwlch ar gyfer ceiswyr gwaith

EN

Mae ein rhanddeiliaid yn rhan annatod o’r ateb i helpu Cyfranogwyr ddychwelyd at waith.

Rydym yn gweithio gyda gwasanaethau amlapio yng Nghymru a Gorllewin Canolbarth Lloegr i leihau dyblygiad y ddarpariaeth a chynnig ffyrdd atgyfeirio lleol ar gyfer y ceiswyr gwaith yr ydym yn angerddol ynglŷn â’u cefnogi.

Mae dwy fantais i’r dull hwn.  Mae ein perthnasoedd parhaus, wedi’u seilio ar wybodaeth a rennir, yn helpu i ddarparu gwybodaeth ynglŷn â pholisi, anghenion cyllid a darpariaeth, yn awr ac yn y dyfodol.

Ac mae ein trosolwg o flaenoriaethau lleol yn golygu y gallwn ni gysylltu â darparwyr gwasanaethau yn ddeallus, fel eu bod yn cynnig dull mwy cydgysylltiedig er mwyn cyflawni canlyniadau a rennir, na fyddai gan geiswyr gwaith ddim mynediad atyn nhw fel arall.

Os ydych chi’n cynrychioli sefydliad cyhoeddus neu sefydliad preifat yng Nghymru neu Orllewin Canolbarth Lloegr, siaradwch â ni ynglŷn â sut y gellid integreiddio’r gwasanaethau yr ydych chi’n eu cynnig i’n Cynllun Ailgychwyn.

Er enghraifft, gallech chi gael gwasanaeth sy’n cynnig cefnogaeth i geiswyr gwaith er mwyn cael gwared â’r rhwystrau y maen nhw’n eu hwynebu, fel cyngor ynglŷn â dyledion, mynediad at fand eang rhad ac am ddim, hyfforddiant a gyllidwyd, neu fwy.

Gyda’n gilydd, gallwn ni wneud gwahaniaeth i’r ceiswyr gwaith yr ydym ni’n angerddol ynglŷn â’u cefnogi.

Cysylltwch â ni Llwyddiannau

Sut allwn ni weithio gyda’n gilydd

Dewch yn rhan o’r sgwrs

Mae cysylltu gwneuthurwyr penderfyniadau â darparwyr gwasanaethau sydd â chlymau cymunedol cryf yn golygu bod ein mewnwelediad yn darparu gwybodaeth ynglŷn â’r ddarpariaeth sydd ei hangen i ddatrys heriau diweithdra yn lleol.

Mae ein cyfarfodydd ymgysylltu lleol, a gaiff eu cynnal yn fisol, yn darparu fforwm i sefydliadau ddod at ei gilydd i rannu gweithgareddau blaenoriaeth lleol ac integreiddio gwasanaethau. Mae’r cyfarfodydd yn cefnogi’r egwyddor o weithredu’n lleol a gwella partneriaethau er mwyn sicrhau gwasanaeth gwell a chyflawn ar gyfer ein cyfranogion.

Cyflwynwch eich gwasanaeth i’n Cadwyn Gyflenwi

O dan arweiniad ystod o sefydliadau, mae ein digwyddiadau ‘Cwrdd â’r Cyflenwr’ yn gyfle gwych i chi godi ymwybyddiaeth o’ch gwasanaethau ar draws ein Cadwyn Gyflenwi. Mae’r sesiynau yn rhoi sylw i ystod o heriau a allai’r cyfranogwyr eu hwynebu ac yn rhoi cyfle i’r Gadwyn Gyflenwi ddarganfod pa gymorth ychwanegol sydd ar gael yn y gymuned leol. Mae’n lle gwych i chi ryngweithio a darganfod atebion ar y cyd, fel y gallwn gefnogi pobl i ddychwelyd i waith.

Rydym bob amser yn awyddus i ymestyn ein rhwydwaith o sefydliadau, bach a mawr, felly cysylltwch â’r tîm a gadewch i ni weithio gyda’n gilydd i herio diweithdra.