Cynllun Ailddechrau

EN

Newyddion Diweddaraf

22nd Nov 2021 Cynllun Ailddechrau

Sara ddechrau ei swydd newydd yn y sector lletygarwch

O feithrin meddylfryd cadarnhaol, i ragori mewn cyfweliad a phopeth yn y canol; mae’r Hyfforddwr Gwaith Theresa wedi darparu dull cyfannol o hyfforddi a mentora ar gyfer y fam sengl, Sara. Wrth ymateb i’r her, daeth Theresa o hyd i swydd a oedd yn bodloni meini prawf penodol, gan fentora Sara i ddeall ei hunan-werth, a hyd yn oed trefnu cyllid i’w helpu tan ei diwrnod cyflog cyntaf. Darllenwch y stori'n llawn. 

12th Nov 2021 Cynllun Ailddechrau

O fod yn ddi-waith i gael swydd amser llawn mewn dim ond pythefnos

Ar ôl cael ei orfodi i gymryd seibiant gyrfa oherwydd problemau iechyd, roedd Rhys, bachgen o Gaerdydd, yn awyddus i ailafael ynddi eto. Ond wedyn daeth y pandemig a oedd yn golygu llai o gyfleoedd felly ni chafodd Rhys ddim lwc yn dod o hyd i swydd. Ar ôl cwpl o flynyddoedd anodd, dyma’r peth olaf yr oedd arno ei angen.

8th Nov 2021 Cynllun Ailddechrau

Rhywun sydd wedi goroesi caethwasiaeth fodern yn teimlo’n gyfforddus yn ei rôl newydd

Ers cyrraedd y DU o Bacistan 15 mlynedd yn ôl, roedd Ali wedi cael ei orfodi i ildio ei gyflog fel labrwr achlysurol, a gan nad oedd yn gallu siarad Saesneg, ni chafodd yr amodau roedd yn eu hwynebu y sylw roedden nhw’n eu haeddu. Ar ôl cymryd rhan mewn cwrs Ymwybyddiaeth o Gaethwasiaeth Fodern gan Serco, roedd gan Hyfforddwr Sgiliau Ali yn Business 2 Business y sgiliau i ddarparu’r cymorth arbenigol roedd arno ei angen i ddod o hyd i waith ystyrlon, cynaliadwy a diogel.

1st Nov 2021 Cynllun Ailddechrau

"Wrth edrych yn ôl, fe ddylwn i fod wedi prynu tocyn loteri"

Roedd partner cyflenwi Serco PeoplePlus yn chwilio am Gynorthwyydd Gweinyddol, a digwydd bod, roedd Courtney yn chwilio am yrfa yn yr un maes. “Wrth edrych yn ôl, fe ddylwn i fod wedi prynu tocyn loteri ar ddiwrnod y cyfweliad oherwydd doeddwn i ddim yn gallu credu fy lwc! Roeddwn i’n Gyfranogwr ac erbyn hyn rwy’n gweithio yn PeoplePlus yn helpu i roi’r Cynllun Ailddechrau ar waith. Mae’n dangos ei fod yn gweithio!”

1 2 3 4 5 6 7 8 9