Cynllun Ailddechrau

O fod yn ddi-waith i gael swydd amser llawn mewn dim ond pythefnos

12th Nov 2021 Cynllun Ailddechrau

EN

Ar ôl cael ei orfodi i gymryd seibiant gyrfa oherwydd problemau iechyd, roedd Rhys, bachgen o Gaerdydd, yn awyddus i ailafael ynddi eto. Ond wedyn daeth y pandemig a oedd yn golygu llai o gyfleoedd felly ni chafodd Rhys ddim lwc yn dod o hyd i swydd. Ar ôl cwpl o flynyddoedd anodd, dyma’r peth olaf yr oedd arno ei angen.

Gyda llawer o gwmnïau’n dal i fod yn gyndyn o recriwtio, roedd ei Hyfforddwr Gwaith Serco, Elliot, yn sylweddoli y byddai angen i Rhys ganolbwyntio ar chwilio am rolau lle byddai’n delio â chwsmeriaid gan mai dyma’r math o waith roedd ganddo brofiad ynddo ac a oedd yn gweddu i’w gymeriad.

Roedd tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr Serco, sef y tîm oedd yn gyfrifol am recriwtio ar gyfer canolfan gyswllt yng Nghaerdydd, yn rhannu'r farn hon. Ac yn arwyddocaol, byddai oriau gwaith y rôl yn caniatáu i Rhys i ofalu am ei iechyd yn y ffordd orau.

Er mwyn gwella ei siawns o lwyddo, cynhaliodd y tîm alwad cyn sgrinio gyda Rhys i fynd dros yr hyn y byddai’r rôl yn ei olygu ac, yn bwysicaf oll, i dawelu ei nerfau ar gyfer y cyfweliad.

Dim ond pythefnos ar ôl iddo ddechrau ei gyfnod ar y Cynllun Ailddechrau, cafodd Rhys gynnig y swydd ar sail amser llawn! Mae eisoes wedi dechrau hyfforddi ar gyfer ei swydd newydd fel Cynghorydd Cyswllt ac mae’n mwynhau pob munud:

“Mae’r hyfforddiant wedi bod yn hwyl ac mae llawer o wybodaeth i’w deall a’i chofio. Mae’n anhygoel beth rydyn ni’n gallu ei wneud pan fyddwn ni’n gwthio ein hunain!”

Mae Cerys, Uwch Reolwr Tîm yn y ganolfan gyswllt, wrth ei bodd â Rhys ac mae’n llawn canmoliaeth i dîm Ymgysylltu â Chyflogwyr Serco:

“Dydyn ni ddim wedi bod yn gweithio â thîm Ymgysylltu â Chyflogwyr Serco am gyfnod hir iawn ond mae eu hymroddiad a’u brwdfrydedd o ran cael pobl i ddychwelyd i weithio yn anhygoel. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda Serco.”

*Ffugenw

Back to all news