Cynllun Ailddechrau

Rhywun sydd wedi goroesi caethwasiaeth fodern yn teimlo’n gyfforddus yn ei rôl newydd

8th Nov 2021 Cynllun Ailddechrau

Daeth Ali* i’r DU o Bacistan 15 mlynedd yn ôl ac am lawer o’r cyfnod hwn, cafodd ei orfodi i ildio ei gyflog fel labrwr achlysurol i’w deulu estynedig, gan dderbyn ychydig yn ôl. Nid oedd yn gallu siarad Saesneg, roedd yn ymgysylltu â nifer fach o bobl ac, o’r herwydd, nid oedd neb yn ymwybodol o’r amodau roedd yn eu hwynebu. 

Nid oedd Arafa, Hyfforddwr Swyddi amlieithog gyda Business 2 Business, yn barod i adael i brofiad erchyll Ali fwrw cysgod dros ei ragolygon ar gyfer y dyfodol. Ar ôl cymryd rhan mewn cwrs Ymwybyddiaeth o Gaethwasiaeth Fodern, a gafodd ei ddarparu gan Serco ar gyfer ei rwydwaith cyflawni Cynllun Ailddechrau; roedd gan Arafa y sgiliau i ddarparu’r cymorth arbenigol roedd arno ei angen i ddod o hyd i waith ystyrlon, cynaliadwy a diogel. 

Yn ymwybodol bod llawer o bobl sydd wedi goroesi caethwasiaeth yn disgrifio ymdeimlad o ansicrwydd a phryder dwfn1, mae Arafa wedi bod yn helpu Ali i ddatblygu ei CV, ymarfer ei dechneg gyfweld a hyfforddiant sylfaenol yn y gwaith, gan ategu’r gefnogaeth hon â’r adnoddau i ddatblygu ei hunanhyder.

Manteisiodd Business 2 Business ar eu rhwydwaith o Gyflogwyr lleol i ddod o hyd i waith addas a daeth bwyty Pacistanaidd yn Erdington i’r amlwg, gan roi lle i Ali allu cyfathrebu’n hawdd â chwsmeriaid a chydweithwyr, a thyfu yn ei rôl. Mae ei gyflogwr newydd yn rhagweld dyfodol hir a disglair i Ali yn y busnes.  

Mae Serco wedi ymrwymo i adeiladu rhwydwaith darparu lleol cryf er mwyn darparu’r gwasanaeth gorau posibl i gyfranogwyr y Cynllun Ailddechrau. Roedd y digwyddiadau Ymwybyddiaeth o Gaethwasiaeth Fodern ar gael i staff Serco a’n partneriaid cyflenwi ar draws Cymru a Gorllewin Canolbarth Lloegr. Cafwyd adborth cadarnhaol iawn gan yr unigolion wnaeth gymryd rhan:

“Rhoddodd y sesiwn wybodaeth fanwl i bobl fod yn ymwybodol o beth sy’n digwydd i unigolion sy’n agored i niwed, a chodi ymwybyddiaeth o’r arwyddion i gadw llygad amdanynt. Yn anffodus, mae llawer o unigolion yn dioddef oherwydd y rheini sydd eisiau cymryd mantais, a gallwn ni fel darparwyr ac asiantaethau wneud cymaint o wahaniaeth i fywydau’r rheini sy’n dioddef o gaethwasiaeth fodern.” - Martyn, Hyfforddiant Tudful 

Back to all news