Cynllun Ailddechrau

Cynllun Ailddechrau yn helpu dyn o Lanelli i ddilyn ei wir angerdd a sicrhau swydd ddelfrydol

17th Aug 2022 Cynllun Ailddechrau

eng

Ymunodd Dan* â’r Cynllun Ailddechrau yn gynnar ym mis Tachwedd 2021. Er bod ganddo lwyddiant academaidd nodedig, nid oedd gyrfa ym maes o’i ddewis wedi rhoi unrhyw foddhad iddo. 

Yn y cyfarfod cyntaf gyda’i Anogwr Gwaith, roedd hi’n amlwg bod Dan yn gyflogadwy iawn a bod ganddo sgiliau a nodweddion rhagorol. Yn ystod y trafodaethau cychwynnol, datgelodd Dan ddiagnosis o awtistiaeth yn ogystal â gorbryder cymdeithasol. Roedd ei swyddi blaenorol yn cynnwys rolau ym meysydd manwerthu a lletygarwch a oedd yn gofyn am lawer o ryngweithio â phobl, felly roedd hi’n ddealladwy pam roedd Dan yn cael trafferth yn y swyddi hynny. 

I dargedu rolau y byddai Dan yn eu mwynhau mwy, holodd ei Anogwr Gwaith am ei ddiddordebau, sef hanes, ysgrifennu creadigol a TG. Datgelodd Dan hefyd ei fod yn gwneud gwaith ymchwil gwirfoddol ym mhapur newydd y Llanelli Standard. Awgrymodd ei Anogwr Gwaith iddo siarad â Rheolwr y papur newydd am y posibilrwydd o droi’r gwaith gwirfoddol yn waith cyflogedig; cytunodd Dan i hyn.  

Roedd yr awgrym hwn yn llwyddiannus, ac yn eu cyfarfod nesaf, dywedodd Dan ei fod wedi siarad â’r Rheolwr a chynigiwyd lleoliad gwaith 4 mis iddo. Yn dilyn y cyfnod hwn, ac ar ôl rhagor o ddatblygu yn y gwaith, llwyddodd Dan i sicrhau swydd barhaol. 

Mae Dan wedi goresgyn rhai rhwystrau anodd i gyflogaeth, ond  mae bellach yn gwneud gwaith y mae’n frwd iawn drosto. Mae’n brawf o’i benderfyniad ei fod wedi cyflawni hyn.

 

*Ffugenw
 

Back to all news