Cynllun Ailddechrau

Dyn o Barri yn gwneud cais am y swydd gyntaf mewn bron i flwyddyn ar ôl cael cefnogaeth y Cynllun Ailddechrau

10th Sep 2021 Cynllun Ailddechrau

EN

Roedd Robert* yn awyddus i weithio gyda’i ddwylo, ac roedd wedi bod yn aros yn amyneddgar i weithio ochr yn ochr â’i dad ar gontract adeiladu mawr, ond ni ddigwyddodd hynny. Ar ôl bod yn ddi-waith am 10 mis, cafodd Robert ei gyfeirio’n uniongyrchol gan ei Anogwr Gwaith yn y Ganolfan Byd Gwaith i’r Cynllun Ailddechrau. 

O fewn pum niwrnod i gael ei gyfeirio at y Cynllun Ailddechrau, roedd Robert wedi ymuno ag asiantaeth recriwtio ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Yn fuan iawn, daeth cynnig swydd (a dderbyniodd) gan ddylunydd a gwneuthurwr nenfydau metel blaenllaw ym Mhrydain.

Gyda chymorth y Cynllun Ailddechrau, cafodd Robert Hyfforddwr Swyddi personol, Jannah Ling o PeoplePlus, cwmni blaenllaw sy’n cynnig cymorth cyflogaeth a gwasanaethau hyfforddi. 

Ar ôl cynnal asesiad cynhwysfawr o’i brofiad gwaith blaenorol a’i ddyheadau, aeth Jannah a Robert ati i baratoi ei CV ac iddo chwilio am swyddi addas a oedd yn cyfateb i’w sgiliau. Gan ddefnyddio porth swyddi a sgiliau ar-lein y Cynllun Ailddechrau, roedd Robert yn gallu gweld miloedd o swyddi gwag. Mewn dim o dro, roedd wedi gwneud cais am bump, ei geisiadau cyntaf mewn dros 10 mis. 

Dyma a oedd gan Lee, Rheolwr Busnes yn PeoplePlus i’w ddweud am lwyddiant y cynllun:

“Hoffwn ddweud ei bod yn wych ein bod wedi llwyddo i gael y cynnig swydd hwn yng Nghymru, ac rwy’n falch iawn o ba mor gyflym ac effeithiol y gwnaeth y tîm a Jannah weithio gyda Robert.”

Back to all news