Cynllun Ailddechrau

Mae’r Cynllun Ailddechrau yn cefnogi ffoadur o Salvador i greu bywyd gwell i’w deulu

19th Jan 2022 Cynllun Ailddechrau

EN

Arferai Victor, cyn-berchennog busnes, redeg siop goffi yn ôl yn El Salvador, ond cafodd ei orfodi i ffoi ei wlad enedigol oherwydd trais. Gan nad oedd yn gallu siarad llawer o Saesneg, roedd Victor yn ei chael yn anodd dod o hyd i waith, ac roedd yn ddi-waith am bron i ddwy flynedd. Nid oedd Victor am i’w sefyllfa ei drechu. Yn hytrach, cysylltodd â’i ganolfan waith leol i weld pa gymorth oedd ar gael.

Cafodd Victor ei gyfeirio at y Cynllun Ailddechrau, sy’n cael ei ddarparu gan Sgiliau a Chyflogaeth Itec ar ran Serco yng Nghymru. Cyfarfu Victor â’i gynghorydd cyflogadwyedd, Hayley, a’i gefnogodd i gael yr hawl i weithio yn y DU, yn ogystal â helpu Victor i ddilyn cwrs Saesneg.

Bu Victor a Hayley wrthi’n gweithio i ddatblygu CV Victor, dod o hyd i gyfleoedd gwaith amrywiol, a’i baratoi ar gyfer cyfweliad. Cafodd Victor gyfweliad, ac yna swydd amser llawn gydag Amazon, lle mae’n gweithio fel Casglwr eitemau. Dywed:

“Rwy’n hapus iawn gyda’r Cynllun Ailddechrau. Roedden nhw’n dangos i mi beth oedd angen i mi ei wneud, sut i wneud hynny, ac yn fy nghefnogi bob cam o’r ffordd. Heb Itec a’r Cynllun Ailddechrau, byddwn i ar goll.”

Roedd Victor yn awyddus i fanteisio ar gynnig y Cynllun Ailddechrau o gefnogaeth ychwanegol yn y gwaith, a gofynnodd i Hayley ei helpu i ddod o hyd i ddewisiadau hyfforddi ychwanegol. Mae Victor bellach yn astudio yn ystod y dydd, ac yn gweithio’r shifft nos yn Amazon. Aeth yn ei flaen:

“Fy nghyngor i ar gyfer unrhyw un sydd mewn sefyllfa debyg i mi yw astudio. Dysgwch yr iaith hyd gorau eich gallu a cheisiwch ychwanegu at eich sgiliau a’ch gwybodaeth drwy’r amser.”

Gan fod Victor bellach yn gweithio ac â’r potensial i gynilo, mae ganddo uchelgais bellach ar gyfer y dyfodol. Mae’n dymuno bod yn fos arno’i hun unwaith eto, a gweithio ochr yn ochr â’i wraig, sy’n gogydd hyfforddedig, yn y DU. Gyda’i gilydd, maen nhw’n gobeithio creu busnes lle gall pobl Abertawe flasu bwyd traddodiadol o Salvador.

Back to all news