Cynllun Ailddechrau

Mae tîm Partneriaeth Cymru Serco yn meithrin perthnasoedd newydd rhwng Canolfannau Byd Gwaith ac arbenigwyr cyflogadwyedd lleol

30th Sep 2021 Cynllun Ailddechrau

EN

Mae Daryll Jones yn gweithio yng Nghymru fel Cydlynydd Partneriaeth ar gyfer Serco ac mae’n canolbwyntio ar feithrin perthnasoedd rhwng Canolfannau Byd Gwaith ac arbenigwyr cyflogadwyedd lleol Cymru. Wrth siarad am ei weithgarwch diweddaraf, dywedodd:

“Roeddem yn falch iawn o ddychwelyd i gyfarfodydd wyneb yn wyneb gyda rhai o’n darparwyr partner yng Nglynebwy yr wythnos hon. Cawsom sgyrsiau cynhyrchiol iawn gyda PeoplePlus ac ELITE Supported Employment ac rydyn ni i gyd eisiau chwarae rhan y gwaith o helpu cyfranogwyr i ddiwallu anghenion y farchnad swyddi.

I ymhelaethu ar y naratif ac i egluro sut gall ein partneriaid cyflenwi helpu, gwnaeth y tîm hefyd ymweliadau safle â’r Canolfannau Byd Gwaith yn Heol y Frenhines Caerdydd, ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ym Mhorthcawl ac ym Maesteg, ac maen nhw’n edrych ymlaen at ymweld â mwy o ganolfannau dros yr wythnosau nesaf.

Roeddem hefyd wedi mwynhau mynd i agoriad swyddogol y Ganolfan yn Heol y Frenhines Caerdydd a chwrdd â’r tîm newydd.

Gan edrych i’r dyfodol, rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr yn yr Adran Gwaith a Phensiynau, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Choleg y Cymoedd i ddarparu’r Fforwm Cymorth i Gyflogwyr, a fydd yn cael ei gynnal ar 13eg Hydref.”

Back to all news