Cynllun Ailddechrau

Darlunydd o Gwmbrân yn awr yn gweithio tuag at ei gyrfa ddelfrydol o fod yn Artist Tatŵio gyda chymorth ei Hanogwr Gwaith Cynllun Ailddechrau

17th Aug 2022 Cynllun Ailddechrau

eng

Roedd Laura* wastad wedi breuddwydio am ddefnyddio ei gradd Darlunio a dod yn Artist Tatŵio proffesiynol, ond roedd hi wedi wynebu sawl rhwystr mewn bywyd, fel cyfrifoldebau gofalu, sydd wedi’i dal hi’n ôl. Yn ffodus, gyda help ei Hanogwr Gwaith People Plus mae Laura bellach ar y trywydd iawn i wireddu ei breuddwyd.  

Her gyntaf Laura oedd llwyddo i gael cyfweliad; dywedodd ei Hanogwr Gwaith fod angen datblygu ei CV er mwyn helpu i oresgyn hyn. Yn dilyn hyn, roedd cystadlu â’i hunanhyder a’i phryder yn golygu nad oedd yn gallu cyfleu ei gallu’n effeithiol yn ystod y cyfweliadau y cafodd wahoddiad i’w mynychu. Yna, daeth her arall; os oedd hi’n ddigon ffodus i gael swydd, roedd ei chyfrifoldebau gofalu yn ystod ganol yr wythnos yn golygu nad oedd modd gweithio yn ystod yr wythnos, ac roedd bod yn ddibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus yn golygu bod gweithio gyda’r nos ac ar benwythnosau yn golygu ei bod hi’n anodd teithio i’r gwaith.  

Bu Laura a’i Hanogwr Gwaith yn trafod ei thargedau gyrfa yn y maes darlunio, a chafodd gyngor am lwybrau ymarferol i’w cyflawni. Cafodd ei CV ei ailwampio i’w wneud yn fwy perthnasol i gyflogwyr ac i ymgorffori’r sgiliau yr oedd wedi’u hennill yn ystod rôl wirfoddol hirdymor gyda Chyngor ar Bopeth.  

Fe wnaethon nhw benderfynu mai rôl a fyddai’n galluogi i Laura weithio gartref fyddai fwyaf addas i liniaru’r angen i Laura gymudo ar drafnidiaeth gyhoeddus. Gyda chymorth ei Hanogwr Gwaith, aeth Laura ati i drafod ei chyfrifoldebau gofalu gyda’i theulu ehangach i weld a allai rhywun ei helpu i ofalu am aelod o’i theulu a oedd angen gofal yn ystod yr wythnos. Roedd ei theulu’n gallu llunio rhestr anffurfiol a oedd yn rhoi dyddiadau ac amseroedd gwahanol i Laura a allai gyd-fynd â’r gwaith.  

Aeth Laura i weithdy meithrin hyder a gyda’i CV newydd roedd yn teimlo’n barod i ymgeisio am swyddi. Llwyddodd i gael cyfweliad a chafodd gynnig swydd amser llawn yn gweithio gartref yn y maes darlunio. Roedd y swydd yn talu’n ddigon da iddi gael y modd i symud allan o gartref ei rhieni  

Yn bwysicach na dim, mae Laura yn defnyddio’r sgiliau a ddysgodd yn y brifysgol mewn gyrfa gyffrous ac ystyrlon ym maes o’i dewis.  

 

*Ffugenw

Back to all news