Cynllun Ailddechrau

Dathlu ein cynnig swydd cyntaf

10th Sep 2021 Cynllun Ailddechrau

EN

Mae ein Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr yng Nghymru wedi sicrhau eu cynnig swydd cyntaf fel rhan o’r Cynllun Ailddechrau gydag un o’n partneriaid cyfrifon a reolir, Rubicon. 

Ymunodd y cyfranogwr â’r Cynllun Ailddechrau i geisio cael gwaith ym maes diogelwch ar ôl gweithio’n flaenorol fel glanhawr. Gan fod gennym gysylltiadau ers tro, roeddem yn gallu siarad â’r cyflogwr, helpu’r cyfranogwr gyda’r ffurflen gais a threfnu cyfweliad mewn dim ond wyth diwrnod. 

Dywedodd Claire Gale, Swyddog Recriwtio Rubicon:

“Mae’n bleser gennym ni yn Rubicon Wales fod yn gweithio gyda Serco ar y Cynllun Ailddechrau. Mae gennym berthynas waith wych ac rydym yn falch fel cwmni o fod yn rhan o helpu pobl i ddychwelyd i’r gwaith. Mae Claire ac Emma yn wych am ein paru ag ymgeiswyr da."

Edrychwn ymlaen at helpu ymgeiswyr yn y dyfodol i ddod o hyd i waith a gobeithio y gallwn helpu i weddnewid bywydau pobl.

Back to all news