Cynllun Ailddechrau

Glanhawr Simnai yn ysgubo’r llwch oddi ar ei gymhwyster

17th Feb 2022 Cynllun Ailddechrau

EN

Ar ôl iddo gael ei ddiswyddo, cymerodd Mark* ei amser i edrych ar ei opsiynau cyn ailymuno â’r gweithlu. Ei nod tymor hir oedd defnyddio’r cymhwyster Glanhau Simnai a gafodd cyn i’r cyfyngiadau symud gael eu cyflwyno yn ystod y pandemig, ond roedd yn barod i ystyried gwaith arall hefyd.

Rhwystr mwyaf Mark rhag cael gwaith oedd ei ddiffyg hyder a, thrwy weithio â’i Hyfforddwr Swyddi, Adele o Gyngor Dinas Casnewydd, llwyddwyd i wella CV Mark. Hefyd dysgodd dechnegau gwerthfawr ar sut i gyfleu ei sgiliau a’u brofiad mewn cyfweliadau. Roedd pob apwyntiad ag Adele yn rhoi’r hwb roedd ei angen i’w hyder i barhau i chwilio am waith.

Cymerodd Mark ran hefyd yn niwrnod asesu Serco a oedd yn recriwtio ar gyfer OneBelow UK, cadwyn siop nwyddau rhad sy’n ehangu, a oedd am lenwi sawl rôl. Ar ôl cael ei sgrinio, cafodd Mark ei gynnig am swydd Rheolwr Siop, a chafodd adborth positif ar ôl ei gyfweliad.

Helpodd y newyddion, er iddo gael ei groesawu, Mark i benderfynu ar ei brif nod a daeth i’r casgliad na fyddai swydd Rheolwr Siop yn addas iddo. Oherwydd ei awydd am gyflog, aeth ati eto i chwilio am waith fel Glanhawr Simnai a chafodd gynnig a derbyniodd swydd rhan amser 16 awr yr wythnos gyda chwmni glanhau simneiau yng Nghaerdydd. Ers iddo ei derbyn mae wedi clywed bod siawns y gall gael cynnig swydd llawn amser yn y dyfodol.

Meddai Hyfforddwr Swyddi Mark, Adele: “Rwyf wedi cwblhau sawl galwad Cymorth Gwaith gyda Mark ac rwyf yn falch o ddweud ei fod yn hapus iawn. Mae’n gwneud y gwaith roedd wedi breuddwydio ei wneud ac mi gymerodd amser yn y diwedd. Rydym yn dal mewn cysylltiad â Mark ac mae wedi cael cynnig cymorth mentora ychwanegol.”

*Ffugenw

Back to all news