Cynllun Ailddechrau

Gwella mynediad at y Cynllun Ailddechrau i geiswyr gwaith sydd ag anghenion cymhleth

26th Apr 2022 Cynllun Ailddechrau

EN

Mae taith pob ceisiwr gwaith i fyd gwaith yn wahanol, a dyna pam ein bod yn parhau i wella’r darpariaethau a ddarparwn ar gyfer amrywiaeth o bobl. Ac mae hyn yn arbennig o wir am bobl ag anableddau a chyflyrau iechyd corfforol neu feddyliol sylweddol.

Yn ymwybodol o hyn, daeth ein tîm Partneriaeth o hyd i ffordd o gryfhau’r llwybr i weithio i bobl ag anghenion iechyd cymhleth. Daeth yn amlwg bod llawer o’r Cynghorwyr Cyflogadwyedd Anabledd yn y Ganolfan Byd Gwaith yn anghyfarwydd â’r ystod eang o gymorth sydd ar gael, ac nid o reidrwydd yn atgyfeirio pobl yr oedd arnynt angen asesiad Cyflogadwyedd Anabledd at y Cynllun Ailddchrau. 

Felly, aeth Rheolwyr Partneriaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau a thimau Partneriaeth Serco ati i gyflwyno sesiynau Anghenion Cymhleth ledled Cymru a Gorllewin Canol Lloegr ar gyfer yr holl Gynghorwyr Cyflogadwyedd Anabledd.  Roedd hyn yn hanfodol gan fod Cynghorwyr Cyflogadwyedd Anabledd yn helpu Anogwyr Gwaith i benderfynu pa raglen gymorth sy’n addas ar gyfer ceiswyr gwaith yn eu gofal, ac mae angen i’r ddwy ochr deimlo’n hyderus y bydd y Cynllun Ailddechrau yn rhoi’r canlyniad gorau.

Roedd yr adborth ar gyfer y sesiynau Anghenion Cymhleth yn gadarnhaol iawn, gyda llawer o’r Cynghorwyr Cyflogadwyedd Anabledd yn dweud eu bod yn llawn gwybodaeth ac yn ddefnyddiol. Rhoddodd holl bartneriaid y Gadwyn Gyflenwi braslun o’r cymorth sydd ar gael i geiswyr gwaith ag anghenion cymhleth a thynnu sylw at sefyllfaoedd go iawn lle’r oedd eu cefnogaeth wedi arwain at ganlyniadau llwyddiannus. Yna, eglurodd ein tîm Partneriaeth, sydd bellach yn cwrdd yn rheolaidd â’r Cynghorwyr Cyflogadwyedd Anabledd, sut maen nhw’n dod o hyd i gymorth cofleidiol ychwanegol i’w helpu ymhellach os oes angen. 

Er bod canlyniadau’r perthnasoedd newydd sydd wedi cael eu meithrin yn parhau, mae’n amlwg bod y Cynghorwyr Cyflogadwyedd Anabledd bellach yn fwy ymwybodol o’r ystod o gymorth sydd ar gael ac yn hyderus i atgyfeirio mwy o bobl i gael cymorth gan y Cynllun Ailddechrau.

Back to all news