Cynllun Ailddechrau

O fod yn ddi-waith i sicrhau swydd fel rheolwr rhanbarth

17th Feb 2022 Cynllun Ailddechrau

EN

Ers symud i Gymru o Wlad Pwyl, roedd gallu Filip* i siarad Saesneg yn rhwystr a oedd yn ei gwneud yn anodd iddo gael swydd.

Gwelodd Leah, ei Hyfforddwr Swyddi gyda Remploy, nad oedd ganddo CV nac unrhyw brofiad diweddar o gyfweliadau. Gyda’i gilydd aethant ati i ddatblygu CV da a oedd yn dangos yn fanwl ei brofiadau a’i set sgiliau trosglwyddadwy.

Y cam nesaf oedd trefnu cyfarfod ag Asiant Recriwtio ar gyfer Filip i edrych ar swyddi yn yr ardal a allai fod yn addas ar ei gyfer.

Clywodd Filip am Ddiwrnod Agored yn lleol gyda chyflogwr diwydiannol mawr, ac roedd y sawl oedd yn recriwtio yn gallu rhannu gwybodaeth am eu diwylliant gweithio a pha swyddi oedd ar gael. Gyda’r wybodaeth hon am y swydd a’r cwmni, aeth Filip i’r Diwrnod Agored ac ymgeisiodd am swydd llawn amser. Diolch i’r help a’r anogaeth a gafodd drwy’r Cynllun Ailgychwyn, llwyddodd Filip ac mae bellach wedi cychwyn yn ei swydd newydd.

Meddai Leah, ei Hyfforddwr Swyddi: “Drwy fanteisio ar brofiad yr Asiant Recriwtio a Rheolwr Cyfrifon Rhanbarth y cyflogwr a’r hyfforddiant cyn-gyflogi a gynigiwyd gennym ni ar y Cynllun Ailgychwyn, mi gafodd hynny effaith wirioneddol ar ragolygon Filip. Roedd yn barod i weithio ac wedi paratoi’n drylwyr i symud ymlaen i swydd gynaliadwy broffesiynol.

*Ffugenw

Back to all news