Cynllun Ailddechrau

“Rwy’n teimlo fel aelod gwerthfawr o dîm unwaith eto.” - Gweithiwr ffatri digalon yn cael help i fynd yn ôl i weithio

17th Aug 2022 Cynllun Ailddechrau

eng

Ar ôl cael gwaith bron yn syth ar ôl iddo gael ei gyfeirio at y Cynllun Ailddechrau, mae Justin yn esbonio, “Roeddwn i wedi treulio ychydig o flynyddoedd heb waith, a doeddwn i ddim yn cael lwc yn cael cyfweliad am swydd hyd yn oed. Roeddwn yn digalonni, yn enwedig gan fod y cyfryngau’n adrodd bod mwy o gyfleoedd gwaith nag erioed. 

Roedd fy Anogwr Gwaith yn y Ganolfan Waith yn codi fy nghalon ac yn fy annog i ‘ddal ati i drio am waith, a bydd cyfle yn siŵr o ddod’; er fy mod yn colli fy hyder yn raddol. Fe wnaeth fy rhoi mewn cysylltiad â’r Cynllun Ailddechrau gan ddweud eu bod yn cael adborth da iawn ganddynt. 

Yn ystod fy nghyfarfod cyntaf gyda Kelly, fy Anogwr Gwaith yn Serco, rhoddais fy manylion iddi ac eglurais pa fath o swydd ac oriau roeddwn yn chwilio amdanynt, ac eglurodd y gefnogaeth a oedd ar gael gan y Cynllun Ailddechrau. Roedd yn gyfarfod cadarnhaol iawn, ac erbyn yr ail gyfarfod roedd Kelly wedi gwneud dwy alwad ffôn, ac roedd y ddwy wedi arwain at gyfweliadau.  

Cyfweliad ar gyfer swydd lanhau mewn ffatri leol oedd y cyntaf, a dyma’r swydd a dderbyniais; mae’n eithaf gwledig ac anghysbell yma gyda llawer o bobl yn gorfod cymudo awr neu fwy i ffwrdd. Dechreuais fy swydd newydd yr wythnos ganlynol. Mae’r staff yma’n gyfeillgar iawn ac roedd hi’n hawdd setlo yn y gwaith. Mae teimlo fel aelod gwerthfawr o dîm ar ôl bod allan o waith am gymaint o amser yn deimlad braf iawn.” 

Mae eisoes wedi gwneud argraff fawr, fel yr eglura Kate o’r cwmni recriwtio CSA: 

“Cawsom alwad ffôn gyntaf wych gyda Justin. Roedd ei straeon am ei o brofiadau gwaith blaenorol fel gwneuthurwr caws yn hynod o ddiddorol, ac roeddem yn awchu am fwy o’i hanes! Cafodd gyfweliad sydyn gyda’n cleient a oedd yn ei garu gymaint â ni, a dechreuodd weithio ar unwaith. Mae Justin bellach wedi bod yn ei rôl ers rhai wythnosau, ac rydym wedi cael adborth rhagorol gan ein cleient. Maent yn edmygu’n fawr ei agwedd dda tuag at waith a’i allu i gwblhau’r holl dasgau i safon uchel iawn. Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddyfodol Justin gyda ni a gweithio gyda Kelly eto i sicrhau rhagor o ymgeiswyr gwych.”

Back to all news