Cynllun Ailddechrau

Rydyn ni’n falch o gydweithio â OneBelow wrth iddo gyflwyno ei gynllun ehangu

1st Nov 2021 Cynllun Ailddechrau

EN

Cafodd OneBelow ei greu gan berchnogion gwreiddiol Poundland ac mae eisoes ar y trywydd iawn i agor 90 o siopau ledled y wlad erbyn diwedd y flwyddyn a rhagor yn 2022. Gyda chymorth tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr Serco mae'r adwerthwr eitemau rhatach wedi cynnig 15 o swyddi i Gyfranogwyr yn ei siop ddiweddaraf yn Crosshands, Gorllewin Cymru.

Mae’n debyg y bydd rhagor o gyfleoedd i Gyfranogwyr Cynllun Ailddechrau Cymru yn y cyfnod hyd at y Nadolig, gyda siopau’n agor yn Abertawe a Chwmbrân. Dywedodd Rheolwr Ardal OneBelow, Dave Evans, “Mae ein profiad cyntaf o weithio gyda thîm Ymgysylltu â Chyflogwyr Serco wedi bod yn wych; llawer gwell na’r disgwyl’.

Y tu ôl i’r llenni, mae Cynllun Ailddechrau Serco a’i bartneriaid cyflenwi yn cyflwyno Sesiynau Gwybodaeth yn y rhanbarthau i wneud yn siŵr bod yr ymgeiswyr yn barod am swydd ac yn llai tebygol o adael. Maen nhw’n hyrwyddo'r cyfleoedd gwaith sydd ar gael ac yn cyflwyno’r Cyfranogwyr i OneBelow ac yn gwneud yn siŵr eu bod yn gwybod beth i’w ddisgwyl wrth weithio gyda’r adwerthwr.

Eglurodd Evans, “Byr iawn yw’r cyfnod sydd ar gael i baratoi i agor siop newydd, felly mae’n braf gwybod fy mod yn gallu dibynnu ar y tîm i’m cefnogi i recriwtio fy staff newydd yn gyflym ac yn effeithlon.” Ac ar ôl rownd o gyfweliadau undydd wedi’u hwyluso gan bartneriaid cyflenwi’r Cynllun Ailddechrau, roedd Evans yn falch o ddod i’r casgliad, “Fe wnaethon ni gyfweld 15 o ymgeiswyr ar y diwrnod a chynnig 15 contract.”

Dim ond megis dechrau yw hyn, yn ôl Emma Wood, Cydlynydd Ymgysylltu â Chyflogwyr Serco. “Gyda 20 o siopau eraill ar fin agor ledled Cymru a’r DU dros y flwyddyn nesaf, rydyn ni’n edrych ymlaen at gydweithio’n llwyddiannus â´r busnes. Mae’n wych bod yn rhan o ddarparu cyfleoedd cyflogaeth gwych a chynaliadwy ar gyfer Cyfranogwyr ein Cynllun Ailddechrau.”

Back to all news