Cynllun Ailddechrau

Sandra’n symud ymlaen o fod yn ddi-waith tuag at fod yn berchen ar fusnes bach

26th Apr 2022 Cynllun Ailddechrau

EN

Mae gan y pobydd talentog, Sandra*, freuddwyd i agor caffi yn Ne Cymru. Ond heb gymwysterau ffurfiol, a bod yn ddi-waith gyda theulu i’w gefnogi, roedd hi’n credu nad oedd yn ddim mwy na breuddwyd ffôl. Mae Gillian, Hyfforddwr Gwaith Sandra o Remploy, yn benderfynol o’i helpu i wireddu ei breuddwyd. I gyflawni hyn, mae Sandra angen cymwysterau ffurfiol i gefnogi ei CV.

Fe wnaeth Sandra ennill cymaint o hyder wrth ymgymryd â chwrs cyflogadwyedd cychwynnol, fel bod Gillian wedi mynd ati ar unwaith i chwilio am gyrsiau cyflogadwyedd ychwanegol ar-lein, gan gynnwys gweithdy creu CV. Bu Sandra gwblhau’r cyrsiau ar wib, a gyda chymhelliant newydd aeth hi ymlaen i gwblhau hyfforddiant Hylendid Bwyd Lefel 1 ar ei liwt ei hun. Yn fuan wedyn, cwblhaodd y cwrs nesaf, Hylendid Bwyd Lefel 2 mewn llai na 24 awr! 

Bellach yn meddu ar gymwysterau cydnabyddedig, mae Sandra’n cael ei chefnogi i chwilio am brofiad gwaith addas a hyfforddiant ychwanegol. Mae Gillian wrth ei bodd â chynnydd ysgubol Sandra, gan wybod bod unrhyw waith uwchsgilio y mae’n ei gwneud yn awr yn gam arall yn nes at wireddu ei breuddwyd. Meddai Gillian:

Yn ddiweddar, daeth Sandra i weithdy hyder yn ein swyddfa lle bu’n gweithredu fel model rôl, gan gymryd un o’r rheini a oedd yn fwy swil o dan ei hadain. Rydyn ni’n hynod falch o’r ffordd y mae Sandra wedi datblygu drwy gydol ei chyfnod byr ar y Cynllun Ailddechrau ac edrychwn ymlaen at ei gweld yn symud i fywyd gwaith yn y dyfodol.

*Ffugenw

Back to all news