Cynllun Ailddechrau

Y Cynllun Ailddechrau yn darparu cymorth wedi’i deilwra i helpu cyfranogwr i oresgyn cyfnod o gynnwrf emosiynol a cholli swydd

17th Aug 2022 Cynllun Ailddechrau

eng

Ar ôl 17 mlynedd mewn swydd, cafodd Chris ei lorio pan gafodd ei ddiswyddo yn 2020, a hynny o ganlyniad i’r pandemig. Yn ystod y flwyddyn ddilynol, roedd y profiad o gael ei wrthod am un swydd ar ôl y llall yn cael effaith ddifrifol ar ei hyder.

Pan gyfeiriwyd Chris at y Cynllun Ailddechrau, dywedodd Nikki, ei Anogwr Gwaith o bartner y Cynllun, PeoplePlus, fod angen iddo fireinio ei CV er mwyn apelio at gyflogwyr, ac aeth ati i roi help llaw iddo wneud hynny.  Dangosodd hefyd i Chris sut i fformatio llythyr eglurhaol a’i deilwra i wahanol gyfleoedd cyflogaeth yn y maes yr oedd ganddo ddiddordeb ynddo. 

Fodd bynnag, fel yr oedd Chris yn gwneud cynnydd, cafodd ergyd arall pan fu farw aelod agos o’r teulu. Cafodd eithriad tymor byr gan ei Anogwr Gwaith yn y Ganolfan Waith i gymryd  hoe, ond gan ei fod yn benderfynol o ddod o hyd i waith, penderfynodd fwrw ati i chwilio am swydd gyda chefnogaeth y Cynllun Ailddechrau 

Wrth weld pa mor frwdfrydig oedd Chris, roedd Nikki hyd yn oed yn fwy penderfynol o’i helpu i gyflawni ei nod. Roedd hi’n awyddus i ddarganfod pam fod Chris yn cael cymaint o drafferth mewn cyfweliadau. Gyda pherthynas wedi’i meithrin, teimlai Chris y gallai ymddiried yn Nikki am drawma mawr yn gynharach mewn bywyd a gafodd effaith fawr ar ei hyder ac a oedd yn effeithio ar ei berfformiad yn y cyfweliad. Wrth ddisgrifio’r emosiynau roedd yn mynd drwyddo mewn cyfweliad daeth yn amlwg ei fod yn bryderus iawn wrth ateb cwestiynau gan gyflogwyr, ac roedd y profiad yn gwneud iddi ‘rewi.’ 

Wedi ei harfogi â’r wybodaeth hon, daeth Nikki o hyd i hyfforddiant arbenigol i roi strategaethau i Chris a fyddai’n ei alluogi i gymryd rheolaeth o’r sefyllfa a chyflwyno argraff gref a hunanhyderus i gyflogwr. Ar ôl ychydig o sesiynau, sylwodd Nikki ar welliant sylweddol ym mherfformiad a hyder Chris. 

Roedd y gwaith yn werth yr ymdrech pan gafodd Chris gynnig swydd fel Gweithredwr Cynhyrchu mewn cwmni dŵr potel lleol. 

Roedd Nikki wrth ei bodd yn clywed y newyddion. Dywedodd:

“Ychydig o wythnosau’n ôl, cefais alwad ffôn gan Chris yn dweud bod y cyfweliad yn llwyddiannus a’i fod wedi cael cynnig y swydd. Roedd yn amlwg wrth ei fodd yn derbyn y swydd ac roedd yn hynod ddiolchgar am y cymorth a roddwyd.”
 

Back to all news