Ochr yn ochr â’n partneriaid rydyn ni’n falch dros ben fod yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) wedi ein dewis ni i gyflwyno rhaglen gyflogadwyedd y Cynllun Ailddechrau yng Nghymru.
Bydd y Cynllun Ailddechrau yn rhoi i bobl sy’n hawlio Credyd Cynhwysol yng Nghymru ac a fu’n ddi-waith am o leiaf 12 mis lefel uwch o gefnogaeth i ddod o hyd i swyddi yn eu hardal leol.
Bydd y Cynllun Ailddechrau yn chwalu’r rhwystrau a allai fod yn eu hatal rhag dod o hyd i waith. Mewn partneriaeth â’n rhwydwaith o Ddarparwyr cyflogaeth byddwn yn gweithio â chyflogwyr (gan gynnwys BBaCh – busnesau bach a chanolig eu maint), Llywodraeth Leol a phartneriaid eraill i gyflwyno cefnogaeth wedi’i theilwra i unigolion.
Rydym yn sylweddoli bod siwrnai pob Cyfranogwr yn ôl i waith yn wahanol a chaiff y Cynllun Ailddechrau ei deilwra i fodloni anghenion pob unigolyn. Rydym wedi creu gwasanaeth sy’n hyblyg, gan alluogi pobl sydd â dipyn o gic ynddynt ac sydd â hanes o waith i ffynnu’n gyflymach; a bydd hefyd yn creu llwybr effeithiol i bobl sydd angen mwy o gefnogaeth.
Bydd y cyfranogwyr yn gweithio gyda’u Hanogwr Gwaith o’r Cynllun Ailddechrau gydol eu siwrnai yn ôl i waith er mwyn:
Mae Môn CF (Cymunedau Ymlaen) yn cynnig cymorth cyflogaeth am ddim i trigolion Ynys Môn a Gwynedd: ysgrifennu CV, cymorth hefo ceisiadau am swydd, lleoliadau gwaith hefo tâl, cymorth hunangyflogaeth a chefnogaeth gyda sefydlu busnes. Mae gan Môn CF dîm hyfforddi mewnol hefyd sy'n cynnig llawer o gyrsiau hyfforddi achrededig a tîm cymorth busnes a gallant gynorthwyo gyda recriwtio, lleoliadau wedi'u hariannu, arweiniad AD, hyfforddiant staff a llawer mwy. Mae ganddyn nhw swyddfeydd yng Nghaergybi, Amlwch, Porthaethwy, Bangor a Chaernarfon.
Dechreuodd Hyfforddiant Tudful ym Merthyr Tudful ym 1987 ac fe’i hymgorfforwyd fel elusen gofrestredig ym 1990. Rydym yn dal i weithredu yn y dref heddiw, a hefyd â chanolfan ym Mhontypridd. Yn 2018 daethom yn is-gwmni dan berchnogaeth lwyr Coleg Merthyr Tudful. Yn ogystal â hyn, yn 2019 daethom yn is-gontractiwr i QSA (Coleg Caerdydd a’r Fro), ar gyfer Prentisiaethau ac ACT ar gyfer Hyfforddeiaethau. Rydym wedi cyflwyno Rhaglenni Oedolion ers blynyddoedd lawer gan ganolbwyntio ar gyflogadwyedd a chymwysterau perthnasol a arweinir gan ddiwydiant. Rydym yn cynnig cyrsiau byr i unigolion fel Cymorth Cyntaf a Diogelwch Bwyd ac yn gweithio gyda chyflogwyr i gynorthwyo gyda recriwtio sy'n canolbwyntio ar sgiliau cyflogadwyedd.
Mae staff yn Hyfforddiant Tudful yn gymwys iawn ac yn gweithio gydag ystod eang o gyrff dyfarnu fel City & Guilds, Highfield, BCS ac EAL ac maent yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Mae ein cyswllt, fel is-gwmni i'r Coleg, yn galluogi pob Defnyddiwr Gwasanaeth i gael mynediad at ystod eang o gyfleoedd dysgu.
Rydym yn ymgysylltu â sylfaen eang o gyflogwyr ac mae ein Swyddog Cyswllt Cyflogwyr yn sicrhau ein bod yn gallu cyflawni yn ôl galw cyflogwyr.
Mae ein Canolfan Fenter Merthyr Tudful (MTEC) yn fenter ar y cyd rhwng Hyfforddiant Tudful a'r Awdurdod Lleol, sy'n arbenigo mewn sgiliau menter, hunangyflogaeth ac entrepreneuraidd.
Yn Maximus, rydym yn cyfuno arloesedd a phrofiad i ddarparu ystod eang o raglenni sy'n helpu unigolion i ddod o hyd i waith ac aros ynddo. Rydym wedi bod yn cyflwyno rhaglenni cyflogaeth a sgiliau sy'n perfformio'n dda am fwy na 25 mlynedd ledled Cymru, Lloegr a'r Alban; o raglenni cenedlaethol ar raddfa fawr i fentrau arbenigol iawn yng nghalon cymunedau lleol.
Trwy ein rhaglenni rydym yn partneru â mwy na 200 o sefydliadau, gan gynnwys elusennau, darparwyr iechyd a gwasanaethau statudol, i sicrhau ein bod yn darparu cefnogaeth effeithiol wedi'i theilwra, waeth pa rwystrau y mae unigolyn yn eu hwynebu. Mae ein timau o arbenigwyr cyflogadwyedd yn helpu i ailsgilio, ailhyfforddi a rhoi’r hyder sydd ei angen ar ein cwsmeriaid i ddod o hyd i waith mewn sectorau newydd a gwahanol.
Mae ein treftadaeth gref a'n harbenigedd mewn gwasanaethau clinigol ac anabledd yn gosod Maximus fel arbenigwyr diwydiant ar gyfer cefnogi pobl ag anableddau a chyflyrau iechyd i ddod o hyd i waith, aros ynddo a symud ymlaen. Rydym yn hynod falch i fod wedi cefnogi mwy na 250,000 o bobl i gyflogaeth gynaliadwy.
Awdurdod unedol sy’n gyfrifol am weinyddu pob maes llywodraeth leol yw Cyngor Dinas Casnewydd. Dyma’r wythfed cyngor mwyaf yng Nghymru ac mae’n darparu’r holl wasanaethau blaenllaw megis addysg, hamdden, gwasanaethau cymdeithasol, cynllunio a phriffyrdd.
Y cyngor yw’r sefydliad arweiniol dros strategaeth sy’n ymwneud â chyflogadwyedd a sgiliau ac ag adfywio’r ddinas ar raddfa ehangach.
Mae’r cyngor wedi cynnal gweithgareddau a gontractiwyd dan O Fudd-dâl i Waith i nifer o grwpiau demograffig ac ardaloedd ers dros 10 mlynedd ac i gyd-fynd â’r gweithgareddau hyn maent yn cynnal rhaglenni atal ac ymgysylltu gan gynnwys Cymunedau Cadarn, Teuluoedd yn Gyntaf, Gwasanaeth Ieuenctid a Dechrau’n Deg.
Mae eu ffocws newydd yn ddiweddar wedi sicrhau bod yr awdurdod yn cyflwyno’r cyfryw wasanaethau mewn ffordd sy’n rhoi’r budd gorau i gymunedau. Mae hyn yn cynnwys creu canolfannau cymdogaeth, sy’n dwyn ynghyd amrywiol wasanaethau mewn amgylchedd modern, croesawgar, gan weithio dros ddinasyddion a’u helpu i wella’u bywydau.
Canolfannau cymdogaeth yn awr yw’r weledigaeth barhaus ar gyfer adfywio cymunedol, maent yn ategu’r prosiectau adfywio cymunedol heddiw ac i’r dyfodol ac yn cyd-fynd â’r egwyddorion datblygu cynaliadwy a geir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Mae’r canolfannau hyn yn cynnig cyngor, arweiniad a chefnogaeth wedi’i theilwra er mwyn i bobl ennill cymwysterau, lleoliadau gwaith, cyfleoedd gwirfoddoli a gwella eu technegau a’u sgiliau chwilio am swyddi.
Gan fod y tîm Gwaith a Sgiliau wedi’i integreiddio’n llwyr â’i bartneriaid, mae’n un pwynt mynediad i gwsmeriaid sydd wedyn yn gallu cael gafael ar yr holl lwybrau cefnogaeth. Gellir creu pecynnau at y pwrpas ac mae’r gefnogaeth arbenigol ar gael i alluogi defnyddwyr i wella’u hiechyd a’u lles, chwalu’r rhwystrau a sicrhau cyflogaeth gynaliadwy.
Sefydlwyd Hyfforddiant Gogledd Cymru yn 1983 fel y darparwr prentisiaethau a hyfforddiant cyflogadwyedd arweiniol yng Ngogledd Cymru ac mae’n is-gwmni i Grŵp Llandrillo Menai, sef y darparwr addysg mwyaf yng Nghymru. Mae’r cwmni yn cynnig ei wasanaethau ar draws y ffin drwy Copa Apprenticeships er gwanwyn 2021 ar ôl penderfynu bod 38 mlynedd yn ddigon o amser i ond gwasanaethu ei famwlad.
Dros y blynyddoedd mae’r cwmni wedi ennill enw da iawn iddo’i hun am fodloni anghenion hirdymor pobl ddi-waith, dysgwyr, cyflogwyr a’u cymunedau, gan fynd y filltir arall i gyflawni ei genhadaeth bod ei ‘holl ddysgwyr yn llwyddo’.
Fel cynifer o’r dysgwyr sydd wedi mynd ymlaen i gael gwaith a chael gyrfaoedd llwyddiannus, diolch i’w gynllun i weithwyr, mae’r cwmni wedi tyfu drwy feithrin a chynnal yn barhaus berthnasoedd cryf, adeiladol â’i bartneriaid a’i randdeiliaid.
Mae’n cwmni yn fwy ffit, yn gryfach ac yn fwy dynamig nag erioed o’r blaen yn ei hanes, ac mae’n defnyddio ei brofiad helaeth yn cyflwyno rhaglenni cyflogadwyedd a phrentisiaethau i helpu i gyflwyno holl gynlluniau a rhaglenni’r llywodraeth a fwriedir i ailadeiladu’r economi ar ôl y pandemig a helpu pobl yn ôl i waith.
Mae Hyfforddiant Gogledd Cymru yn sefydliad Buddsoddwr mewn Pobl ymroddedig, yn aelod corfforaethol o’r Sefydliad Gweithwyr Cyflogadwyedd Proffesiynol ac yn Gyflogwr Cyflog Byw.
Elusen a menter gymdeithasol a leolir ym Merthyr Tydfil ac sy’n gweithredu ar draws de Cymru a’r Cymoedd yw MTIB. Menter gymdeithasol, nid er elw yw MTIB a sefydlwyd yn 1923 i gefnogi’r cynnydd mewn dallineb diwydiannol yn yr ardal. Mae MTIB wedi esblygu a datblygu yn sefydliad cymorth cyflogaeth, a’r prif nod yw cefnogi ein cyfranogwyr i symud yn agosach at waith ac i gyflogaeth.
Ein swyddfeydd ym Mhentrebach, Merthyr Tudful, yw lleoliad ein cyfleusterau cyflogaeth a hyfforddiant lle’r ydym yn cyflwyno ein gwasanaethau cyflogadwyedd yn ein hadeiladau modern sy’n gydnaws â’r DDA. Mae MTIB yn ganolfan gyflawni achrededig i Agored Cymru ac rydym yn cyflwyno amrywiaeth o hyfforddiant a chefnogaeth i helpu i ddatblygu a gwella sgiliau cyflogadwyedd.
Bu MTIB yn cyflwyno cymorth cyflogadwyedd yng Nghymru er dechrau’r 1980au ac mae ganddo brofiad helaeth o helpu cyfranogwyr sydd â rhwystrau neu anghenion ychwanegol megis pobl a fu’n ddi-waith yn yr hirdymor, pobl sydd heb lawer o sgiliau, pobl sy’n newid gyrfa neu bobl sydd â chyflyrau iechyd ac anabledd. Rydyn ni’n gweithio’n agos â chyflogwyr lleol i ddeall eu hanghenion ac i helpu ein cyfranogwyr i gael cyfleoedd cyflogaeth cynaliadwy, hirdymor. Mae MTIB hefyd yn gweithio’n agos â darparwyr lleol eraill ym maes hyfforddiant, tai, cefnogaeth iechyd meddwl a llawer mwy i gynnig ystod eang o ymyraethau cefnogol a phersonol i helpu ein cyfranogwyr.