Cynllun Ailddechrau

“Bydd hi’n Nadolig da eleni” i weithiwr warws o Gaerdydd

5th Jan 2022 Cynllun Ailddechrau

EN

Er gwaethaf profiad o weithio mewn warysau ac adeiladu, mae Owen* wedi bod yn ddi-waith ers dros ddwy flynedd ar ôl ei chael hi'n anodd dod o hyd i waith o fewn pellter cymudo ar drafnidiaeth gyhoeddus. Wrth i'r misoedd fynd yn eu blaenau, teimlai Owen mai'r unig swydd fforddiadwy iddo ddechrau fyddai o fewn pellter cerdded wrth i'w arian ar gyfer cymudo ar drafnidiaeth gyhoeddus ddechrau crebachu.

Yn ffodus, gyda chymorth a chyllid y Cynllun Ailgychwyn cyn cyflogi i ysgwyddo costau teithio, roedd Owen yn gallu ehangu ei ardal chwilio a dod o hyd i waith.

Erbyn hyn, mae’n hyderus ar gyfer y dyfodol: “Bydd hi’n Nadolig da eleni! Dwi’n mwynhau fy rôl newydd yn fawr ac yn gobeithio y bydd rhai o fy ffrindiau hefyd yn gallu dod o hyd i waith tebyg yn fuan."

Pan gyfarfu Owen â Hyfforddwr Swyddi PeoplePlus, Lee, cynlluniwyd cynllun cymorth wedi'i deilwra i'w helpu i oresgyn ei rwystrau i waith, gan gynnwys peidio â chael llety sefydlog, a gwaith hirdymor. Dywedodd Lee:

“Gyda’n gilydd, gwnaethom edrych ar wahanol rolau ond oherwydd nifer uchel yr ymgeiswyr, prin oedd yr ymatebion. Aethom ati i greu a dilyn cynllun gweithredu ar ei gyfer. Yn awyddus i Owen beidio â cholli momentwm nes i ni allu sicrhau cyfweliad iddo, siaradais ag e ynglŷn â Staffline, sy’n cynnig gwaith mewn warws ar gyfer cadwyn o archfarchnadoedd adnabyddus yng Nghasnewydd, ac fe ddenodd hynny ei ddiddordeb yn syth.

“Roedd Owen ar gael am gyfweliad anffurfiol gyda Staffline y diwrnod canlynol, ac ar ôl sgwrs 45 munud, cafodd gynnig y rôl. Mae staff ein swyddfa yn nabod Owen yn dda ac roeddem i gyd wrth ein bodd ei fod wedi dod o hyd i swydd.

“Gyda chostau teithio yn cael eu hysgwyddo gan y Cynllun Ailgychwyn nes ei ddiwrnod cyflog cyntaf, roedd Owen yn llawn cyffro i ddechrau ar ei swydd newydd a chael sicrwydd dros y Nadolig a thu hwnt. Ar ôl iddo gynilo rhywfaint, mae'n edrych i rentu ei lety ei hun.”

*Ffugenw

Back to all news