Cynllun Ailddechrau

Gofalwr Cymraeg yn cael ei gefnogi’n ôl i’r gwaith ar ôl dwy flynedd o fod yn ddi-waith

17th Aug 2022 Cynllun Ailddechrau

eng

Roedd ceisio chwilio am waith gyda chyfrifoldebau gofalu a symud tŷ yn her enfawr i Tracey. Ond gyda chymorth y Cynllun Ailddechrau, mae hi wedi dechrau swydd newydd ym maes gofal ar ôl dwy flynedd yn ddi-waith. 

Dywedodd Tracey wrth Megan, ei Hanogwr Gwaith, ei bod eisoes wedi treulio ychydig o flynyddoedd yn gwirfoddoli mewn cartref gofal a’i bod wedi penderfynu mai dyma’r maes yr oedd hi eisiau gweithio ynddo. Roedd Megan yn teimlo bod y profiad gwerthfawr hwn yn gwneud Tracey yn ymgeisydd delfrydol, ac roedd ganddi hefyd sgiliau trosglwyddadwy drwy weithio ym meysydd manwerthu a glanhau- sgiliau fel gallu delio â chwsmeriaid, cadw amser a threfnu.  

Gyda pherthynas wedi’i meithrin, dywedodd Tracey wrth Megan fod ganddi anawsterau dysgu ac felly roedd arni angen ychydig o help ychwanegol gyda’i gwaith ysgrifennu. Sicrhaodd Megan nad oedd hyn yn broblem o gwbl, ac aeth ati i gefnogi Tracey i ysgrifennu a mireinio ei CV, a llenwi ffurflenni cais.  

Yna, ar ôl i Tracey ddechrau cael gwahoddiadau i gyfweliadau, cafodd hi gyfle i gwrdd â Hyfforddwr Cyflogadwyedd mewnol, a rhoddodd gefnogaeth ychwanegol iddi drwy ddarparu sesiynau hyfforddi i wella ei hyder a sesiynau paratoi ar gyfer cyfweliad er mwyn i Tracey allu mireinio ei thechneg.  

Nid cefnogaeth ymarferol yn unig oedd hi; roedd Megan yn cydnabod bod gan Tracey lawer ar ei phlât, felly daliodd ati i dawelu ei meddwl ac roedd hi wrth law i gael unrhyw gymorth ychwanegol.  

Roedd y dull cyfannol hwn yn llwyddiannus, ac maeTracey wedi llwyddo i gael rôl fel Gofalwr mewn cartref gofal lleol, a dechreuodd ym mis Mawrth. 

Pob lwc yn eich rôl newydd!

Back to all news