Cynllun Ailddechrau

“Rwyf wrth fy modd gyda’r canlyniad” – Dyn o Lanelli’n cael swydd gyda Tesco

17th Feb 2022 Cynllun Ailddechrau

EN

Pan gafodd Brian* ei atgyfeirio at y Cynllun Ailgychwyn dywedodd fod ei ddisgwyliadau’n “isel” a’i fod yn poeni y byddai’r holl beth yn “wastraff amser”. Ond gan ei fod eisiau newid gyrfa a mynd i’r byd manwerthu i gynnal ei deulu, sylweddolodd Brian y byddai angen help arno am nad oedd ganddo ddim profiad blaenorol yn y sector.

Gan fod Brian yn awyddus i gael hyfforddiant i’w helpu i gael swydd, cafodd help gan Karen, ei Hyfforddwr Swyddi gyda PeoplePlus, i fynd ar gyrsiau hyfforddi a fyddai’n gwella ei ragolygon. Ar ôl i Brian gwblhau’r cyrsiau gwasanaeth i gwsmeriaid, cymorth cyntaf a warden tân, cofrestrodd ar gwrs ‘Symud i Waith’ PeoplePlus, a oedd yn cynnwys lleoliad a fyddai’n gyfle i gael profiad gwerthfawr.

Mi aeth pethau mor dda ar y cwrs, fel y cafodd Brian gynnig swydd! Yr unig broblem oedd ei bod yn gofyn am weithio yn ystod y dydd ac nid oedd hynny’n siwtio Brian am ei fod eisiau shifftiau nos oherwydd ei gyfrifoldebau gofal plant, ond roedd yn barod i roi cynnig arni.

Ers hynny, mae Brian wedi cael cynnig swydd fel Gwerthwr yn siop Tesco Llanelli gan weithio shifftiau nos, sef yr union beth roedd yn chwilio amdano. Mae Brian wrth ei fodd:

“Roedd y Cynllun Ailgychwyn yn llawer gwell nag oeddwn wedi’i freuddwydio ac mae Karen wedi creu argraff oherwydd sut mae hi wedi llwyddo i fy nghael ar y cyrsiau y gofynnais amdanynt o fewn y pythefnos cyntaf. Rwyf wrth fy modd â’r canlyniad. Mae Karen yn seren ac wedi bod yn gwbl agored â fi ers y diwrnod cyntaf, a dyna’n union beth oedd ei eisiau arna i. Diolch am eich holl help."

*Ffugenw

Back to all news