Cynllun Ailddechrau

Y Cwmni logisteg mawr o Fôn Wincanton PLC yn croesawu pedwar cyflogai newydd drwy’r Cynllun Ailgychwyn

17th Feb 2022 Cynllun Ailddechrau

EN

Mae Wincanton PLC yn un o brif bartneriaid cadwyn gyflenwi busnesau Prydain, gan gynnig datrysiadau i’r gadwyn gyflenwi mewn ystod eang o sectorau. Gyda gweithlu o bron i 20,000 mewn 200 o safleoedd, mae ymgyrchoedd recriwtio’n gyffredin a dyma lle mae’r Cynllun Ailgychwyn wedi gallu helpu.

Datblygiad sgiliau a hyfforddiant pwrpasol:

Mae Môn CF, sy’n helpu Serco i redeg y Cynllun Ailgychwyn, wedi helpu Wincanton i lenwi pedair swydd llawn amser ym Môn. Roedd Môn CF yn gallu gwneud hyn drwy:

Cymorth cyn-cyflogi wedi’i deilwra, sy’n cynnwys hyfforddiant ar gyfer rolau penodol i bob ymgeisydd, cyn-sgrinio a chymorth ar gyfer cyfweliadau.

  • Dangosodd asesiad o angen cychwynnol y dylai’r pedwar Cyfranogwr gael hyfforddiant Diogelwch Tân, Gweithredu Craeniau, ac Iechyd a Diogelwch. Roedd hyfforddiant yn cael ei gynnig am ddim gan Môn CF drwy’r Cynllun Ailgychwyn, a hynny er budd CV y Cyfranogwyr a'r cyflogwr. Mae Wincanton wedi denu sgiliau hanfodol i’r cwmni, heb orfod neilltuo amser ac arian i uwchsgilio staff newydd eu hunain.
  • Trefnwyd gweithdy magu hyder yn unswydd ar gyfer un ymgeisydd i wella eu hunan barch.
  • Ar ôl recriwtio llwyddiannus, mae’r Cynllun Ailgychwyn wedi parhau i gynnig cymorth yn y gwaith i helpu cyflogeion busnesau i gynefino.
  • Roedd cymorth ychwanegol yn cynnwys arian i dalu eu costau teithio tan iddynt gael eu cyflog cyntaf, help gyda gwiriadau DRB a helpu i ddod o hyd i’r ddogfennaeth ‘Hawl i Weithio’ gywir.

Recriwtio llwyddiannus i annog twf busnesau:

Meddai Skye McMillan, Cynghorydd Adnoddau Cenedlaethol Wincanton: “Roedd nifer a safon yr ymgeiswyr yn llawer gwell na’r hyn roedd ein tîm yn ei ddisgwyl. Mae help y Cynllun Ailgychwyn wedi gwneud yr holl broses yn un ddi-boen.”

Mae pob un o’r ymgeiswyr wedi llwyddo i gael swydd llawn amser gyda Wincanton ac maent wrth eu bodd â’r help a gawsant:

*Amy, Cydlynydd Iechyd a Diogelwch, Llawn amser

Ar ôl cael ei diswyddo, roedd Amy wedi bod yn ddi-waith am ychydig fisoedd cyn cael swydd fel Cydlynydd Iechyd a Diogelwch y cwmni:

“Doeddwn i ddim eisiau gweithio yn y byd Gwasanaeth i Gwsmeriaid eto, roedd awydd newid arnaf a rhoddodd fy Hyfforddwr Swyddi fy enw ymlaen. Mae’r hyfforddiant wedi bod yn wych. Mae’n braf bod yn ôl a chael rhyngweithio a chymysgu unwaith eto. Mae fy hyder yn dod yn ôl yn araf bach.”

Martin*, Gweinyddwr Data, llawn Amser

Roedd Martin wedi bod yn ddi-waith am y flwyddyn ddiwethaf, ac roedd yn awyddus i weld a allai drosglwyddo ei brofiad yn y maes manwerthu i sector arall:

“[Mae gen i nawr] swydd dda am yr ardal, nid oes llawer o gontractau mawr yn dod i Ynys Môn. Bûm yn gweithio â fy Hyfforddwr Swyddi am rai misoedd, ac yn fuan iawn mi ges fy nghyflwyno i'r swydd hon, roedd yn help mawr i sicrhau cyfweliad ac i baratoi ar ei gyfer.”

Dylan*, Gweinyddwr Data, Llawn amser

O fewn deufis ar ôl dechrau gweithio â’i Hyfforddwr Swyddi, cafodd Dylan hyfforddiant at sut i ddatblygu ei CV, sut i ymgeisio am y swydd ac i sicrhau ei swydd newydd:

“Mae pethau wedi newid yn llwyr ers y cyfnod gwaethaf o fy mywyd. Nid oeddwn yn chwilio am ddim byd penodol. Roeddwn yn barod i wneud gwaith gweinyddol, gwerthu blodau, gwaith gofal, gweini. Awgrymodd fy Hyfforddwr Swyddi’r swydd yma a meddyliais, pam lai!”

Edith*, Goruchwyliwr Arolygu, Llawn Amser

Gyda phrofiad blaenorol fel gyrrwr a Hyfforddwr Cerbydau Fforch Godi, roedd swydd Goruchwyliwr Arolygu yn ddatblygiad realistig i Edith, er ei bod wedi bod yn ddi-waith am 22 mis:

“Mae’n wych. Fedra i ddim credu’r peth! Rwyf wedi bod yn cynnig am bob math o bethau, ond nid oeddwn yn cael swydd nac adborth.”

Back to all news