Pan gafodd Brian* ei atgyfeirio at y Cynllun Ailgychwyn dywedodd fod ei ddisgwyliadau’n “isel” a’i fod yn poeni y byddai’r holl beth yn “wastraff amser”. Ond gan ei fod eisiau newid gyrfa a mynd i’r byd manwerthu i gynnal ei deulu, sylweddolodd Brian y byddai angen help arno am nad oedd ganddo ddim profiad blaenorol yn y sector.
Mae Wincanton PLC yn un o brif bartneriaid cadwyn gyflenwi busnesau Prydain, gan gynnig datrysiadau i’r gadwyn gyflenwi mewn ystod eang o sectorau. Gyda gweithlu o bron i 20,000 mewn 200 o safleoedd, mae ymgyrchoedd recriwtio’n gyffredin a dyma lle mae’r Cynllun Ailgychwyn wedi gallu helpu.
Ar ôl iddo gael ei ddiswyddo, cymerodd Mark* ei amser i edrych ar ei opsiynau cyn ailymuno â’r gweithlu. Ei nod tymor hir oedd defnyddio’r cymhwyster Glanhau Simnai a gafodd cyn i’r cyfyngiadau symud gael eu cyflwyno yn ystod y pandemig, ond roedd yn barod i ystyried gwaith arall hefyd.
Cafodd Kyle ei atgyfeirio at y Cynllun Ailgychwyn ar ôl cael anhawster dod o hyd i waith am dros flwyddyn. Yn ystod y cyfnod hwn, collodd Kyle ei gartref ac roedd wedi bod yn byw mewn pabell. Roedd byw mewn pabell yn ystod y gaeaf yn anodd iawn i Kyle, yn enwedig ac yntau’n chwilio am waith.